Mae'r ffôn yn canu hefyd Ac mae beirdd yn canu -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett Sent: 15 October 2008 14:57 To: [log in to unmask] Subject: Re: play an instrument Pan oeddwn i'n dysgu Cymraeg yn y lle cyntaf cofiaf glywed (gan Dan Lynn James? Alun Jones?) mai "canu" oedd y gair ar gyfer y delyn, a chwarae am y offerynau eraill. 'Dw i ddim yn cofio a soniwyd am y berdoneg y naill ffordd na'r llall, ond mae "canu'r piano" yn swnio'n gyfarwydd iawn i mi, a "canu" yn unig sydd yn GyrA dan "piano". O ran "canu corn", "canu cloch" a ddefnyddir o hyd hefyd. "Canu" sy'n gywir ar gyfer unrhyw offeren, meddai Bruce, ond "'dyw o ddim o dragwyddol bwys" ar wahan i "telyn/piano/corn/cloch" - a ydym wedi hepgor unrhyw beth? Gyda llaw, fel dysgwr, ni wn i ba mor gyfarwydd yw'r rhigwm hyfryd hwn: Mae cath fach Jons y Felin Yn cael gwersi ar y delyn; Gwyr yn awr y ffordd i redeg Hyd ber dannau y berdoneg. Ann ----- Original Message ----- From: "john.puw" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, October 10, 2008 5:14 PM Subject: Re: play an instrument >Y peth od ydi, canu corn y car fyddwn i, ond chwarae pob offeryn chwyth (a >phob offeryn arall hefyd). > Sent using BlackBerry® from Orange > > -----Original Message----- > From: Eluned Mai <[log in to unmask]> > > Date: Fri, 10 Oct 2008 17:00:57 > To: <[log in to unmask]> > Subject: Re: play an instrument > > > Mi faswn i'n canu pob offeryn - piano, telyn, ffliwt, clarinet a hyn > yn oed y drwm - taswn i ond yn gallu! Am fy mod wedi dysgu mai hynny > sy'n iawn, am wn i, ac mae'n gwneud synnwyr hefyd. Dwi yn dweud > 'chwarae piano' weithiau ond 'canu' sy'n teimlo'n iawn - gan mai > 'canu' dwi'n arfer ei ddefnyddio, hwnnw sy'n teimlo'n naturiol. A > dwi'n siwr ein bod i gyd yn 'canu corn' - dwi'n medru gwneud hynny, > h.y. pan fydd yr un ar fy nghar bach i yn gweithio! > > Pob hwyl > > Eluned > > On Fri, Oct 10, 2008 at 2:12 PM, Osian Rhys <[log in to unmask]> wrote: >> Ond canu'r delyn onidêê? Dw i'n meddwl mai chware popeth arall fyswn i, >> ond >> canu'r delyn -- i fi mae "chwarae'r delyn" yn swnio'n od braidd... >> >> >>> Ie, Geraint, dyna'n union roeddwn i'n feddwl. >>> Mae bron pawb dw i wedi'i holi'n dweud "chwarae dwi'n ddweud ond canu >>> sy'n >>> iawn". Pwy sy'n dweud mai "canu sy'n iawn" dw i ishe gwbod - yn enwedig >>> os >>> ydi chwarae'n cael sêl bendith yr Esgob William Morgan a Bruce >>> Griffiths! >>> Dw i ddim yn dadlau nad ydi canu'n iawn, gyda llaw. >>> >>> Diolch bawb! >>> >>> Siân >>> On 10 Oct 2008, at 09:29, Geraint Lovgreen wrote: >>> >>>> Chwarae offeryn fyswn i, er i athrawes yn yr ysgol ddweud mai 'canu' >>>> oedd >>>> yn iawn. Ond wedyn, weithiau bydd athrawon ysgol gynradd yn cael >>>> chwilen yn >>>> eu pennau am rywbeth - mae na bobl ffordd hyn sy'n ynganu'r gair "byth" >>>> efo >>>> y hir (fel "syth") am fod rhyw athro/athrawes wedi pwyso arnyn nhw >>>> "peidiwch >>>> b^yth â dweud byth". >>>> >>>> Geraint >>>> >>>> An tUalghargach - esgob, dydi'r Wyddeleg yn iaith gymhleth!!! >>>> >>>> ----- Original Message ----- From: "Muiris Mag Ualghairg" >>>> <[log in to unmask]> >>>> To: <[log in to unmask]> >>>> Sent: Friday, October 10, 2008 12:57 AM >>>> Subject: Re: play an instrument >>>> >>>> >>>> Dw i ddim yn mynd i ddadlau o blaid 'canu gitar' neu yn ei erbyn - >>>> rwy'n cofio'r drafodaeth flaenorol ar y pwnc ac yn derbyn bod >>>> 'chwarae' yn digwydd yn y Gymraeg ers cymaint o amser nad oes modd >>>> dadlau yn ei erbyn bellach - ond tybed a fydd Ffion (merch ffrind i >>>> Huw a finnau) yn chwarae'r delyn ar ei chwrs ym Mangor ynteu'n canu'r >>>> delyn? >>>> >>>> Ond wedi dweud hynny dyma, o leiaf un, enghraifft o ganu'r gitar >>>> >>>> "Fe gafodd Danny ei eni mewn fflat cyngor yng Nhaerdydd ar ôl parti ar >>>> hyd y nos gyda'r Ballet Rambert. Roedd ei berfformiad gyhoeddus cyntaf >>>> yng nghlwb werin Cardiff Royal Infirmary yn 1970, yn canu gitar gyda'i >>>> rieni. I'r anoracs ymysg y darlledwyr, mae fe'n canu y cymysgedd >>>> arferol o offerynnau tant, gyda ffrets ac hebddynt, ac yn defnyddio'r >>>> dull chwyldroadol 'Bowyer's' ar allweddellau a ffidil. Mae Danny yn >>>> perfformio mewn amryw grwpiau eraill yn cynnwys Kilbride (gyda'i >>>> frodyr Gerard a Bernard), Yr Hwntws a Juice." >>>> http://www.carreglafar.co.uk/features/musicians/DannyCym.htm >>>> >>>> Ond, mae'n ddigon posibl mai cyfieithiad yw'r dyfyniad uchod ac >>>> efallai nad oes modd dibynnu arno fel enghraifft o Gymraeg naturiol. >>>> >>>> Muiris, >>>> (sy'n gwrando ar Rhian yn canu emynau allan o 'Caneuon Ffydd', a chyda >>>> llaw An tUalghargach yw'r ffurf gywir os yw rhywun eisiau cyfeirio >>>> ataf gan ddefnyddio'r cyfenw!) >>>> >>>> >>>> 2008/10/9 Huw Garan <[log in to unmask]>: >>>>> >>>>> 'Canu piano' ddysgais i wrth dyfu lan, ond alla i ddim meddwl am rwyun >>>>> yn >>>>> canu gitar drydan neu ddrymie nac yn chwarae piano neu ffidil. Falle >>>>> taw fi >>>>> sy'n rhyfedd - paid ateb, Mag Ualghairg. >>>>> >>>>> Hg >>>>> >>>>> 2008/10/9 Sian Roberts <[log in to unmask]> >>>>>> >>>>>> Mae tuedd i feddwl mai "canu offeryn" - yn enwedig y piano a'r >>>>>> delyn - >>>>>> sy'n gywir yn y >>>>>> Gymraeg er mai "chwarae" y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud yn >>>>>> naturiol. A oes sail >>>>>> dros hyn? >>>>>> Yn ôl GPC, mae'r ddau ymadrodd yn digwydd ym Meibl 1588, ac yn GyrA o >>>>>> dan >>>>>> "play (an >>>>>> instrument) ceir "chwarae, seinio, occ. canu". >>>>>> Ai dim ond meddwl mai "canu" sy'n iawn am ei fod yn wahanol i'r >>>>>> Saesneg >>>>>> y >>>>>> mae pobl? >>>>>> >>>>>> Diolch >>>>>> Siân >>>>> >>>>> >> >> > ---------------------------------------------------------------------------- ---- No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.173 / Virus Database: 270.8.0/1725 - Release Date: 14/10/2008 21:25