Print

Print


Ie, Geraint, dyna'n union roeddwn i'n feddwl.
Mae bron pawb dw i wedi'i holi'n dweud "chwarae dwi'n ddweud ond canu  
sy'n iawn". Pwy sy'n dweud mai "canu sy'n iawn" dw i ishe gwbod - yn  
enwedig os ydi chwarae'n cael sêl bendith yr Esgob William Morgan a  
Bruce Griffiths!
Dw i ddim yn dadlau nad ydi canu'n iawn, gyda llaw.

Diolch bawb!

Siân
On 10 Oct 2008, at 09:29, Geraint Lovgreen wrote:

> Chwarae offeryn fyswn i, er i athrawes yn yr ysgol ddweud mai  
> 'canu' oedd yn iawn. Ond wedyn, weithiau bydd athrawon ysgol  
> gynradd yn cael chwilen yn eu pennau am rywbeth - mae na bobl  
> ffordd hyn sy'n ynganu'r gair "byth" efo y hir (fel "syth") am fod  
> rhyw athro/athrawes wedi pwyso arnyn nhw "peidiwch b^yth â dweud  
> byth".
>
> Geraint
>
> An tUalghargach - esgob, dydi'r Wyddeleg yn iaith gymhleth!!!
>
> ----- Original Message ----- From: "Muiris Mag Ualghairg"  
> <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Friday, October 10, 2008 12:57 AM
> Subject: Re: play an instrument
>
>
> Dw i ddim yn mynd i ddadlau o blaid 'canu gitar' neu yn ei erbyn -
> rwy'n cofio'r drafodaeth flaenorol ar y pwnc ac yn derbyn bod
> 'chwarae' yn digwydd yn y Gymraeg ers cymaint o amser nad oes modd
> dadlau yn ei erbyn bellach - ond tybed a fydd Ffion (merch ffrind i
> Huw a finnau) yn chwarae'r delyn ar ei chwrs ym Mangor ynteu'n canu'r
> delyn?
>
> Ond wedi dweud hynny dyma, o leiaf un, enghraifft o ganu'r gitar
>
> "Fe gafodd Danny ei eni mewn fflat cyngor yng Nhaerdydd ar ôl parti ar
> hyd y nos gyda'r Ballet Rambert. Roedd ei berfformiad gyhoeddus cyntaf
> yng nghlwb werin Cardiff Royal Infirmary yn 1970, yn canu gitar gyda'i
> rieni. I'r anoracs ymysg y darlledwyr, mae fe'n canu y cymysgedd
> arferol o offerynnau tant, gyda ffrets ac hebddynt, ac yn defnyddio'r
> dull chwyldroadol 'Bowyer's' ar allweddellau a ffidil. Mae Danny yn
> perfformio mewn amryw grwpiau eraill yn cynnwys Kilbride (gyda'i
> frodyr Gerard a Bernard), Yr Hwntws a Juice."
> http://www.carreglafar.co.uk/features/musicians/DannyCym.htm
>
> Ond, mae'n ddigon posibl mai cyfieithiad yw'r dyfyniad uchod ac
> efallai nad oes modd dibynnu arno fel enghraifft o Gymraeg naturiol.
>
> Muiris,
> (sy'n gwrando ar Rhian yn canu emynau allan o 'Caneuon Ffydd', a chyda
> llaw An tUalghargach yw'r ffurf gywir os yw rhywun eisiau cyfeirio
> ataf gan ddefnyddio'r cyfenw!)
>
>
> 2008/10/9 Huw Garan <[log in to unmask]>:
>> 'Canu piano' ddysgais i wrth dyfu lan, ond alla i ddim meddwl am  
>> rwyun yn
>> canu gitar drydan neu ddrymie nac yn chwarae piano neu ffidil.   
>> Falle taw fi
>> sy'n rhyfedd - paid ateb, Mag Ualghairg.
>>
>> Hg
>>
>> 2008/10/9 Sian Roberts <[log in to unmask]>
>>>
>>> Mae tuedd i feddwl mai "canu offeryn" - yn enwedig y piano a'r  
>>> delyn -
>>> sy'n gywir yn y
>>> Gymraeg er mai "chwarae" y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud yn
>>> naturiol. A oes sail
>>> dros hyn?
>>> Yn ôl GPC, mae'r ddau ymadrodd yn digwydd ym Meibl 1588, ac yn  
>>> GyrA o dan
>>> "play (an
>>> instrument) ceir "chwarae, seinio, occ. canu".
>>> Ai dim ond meddwl mai "canu" sy'n iawn am ei fod yn wahanol i'r  
>>> Saesneg y
>>> mae pobl?
>>>
>>> Diolch
>>> Siân
>>
>>