'Canu piano' ddysgais i wrth dyfu lan, ond alla i ddim meddwl am rwyun yn canu gitar drydan neu ddrymie nac yn chwarae piano neu ffidil.  Falle taw fi sy'n rhyfedd - paid ateb, Mag Ualghairg.

Hg

2008/10/9 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Mae tuedd i feddwl mai "canu offeryn" - yn enwedig y piano a'r delyn - sy'n gywir yn y
Gymraeg er mai "chwarae" y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud yn naturiol. A oes sail
dros hyn?
Yn ôl GPC, mae'r ddau ymadrodd yn digwydd ym Meibl 1588, ac yn GyrA o dan "play (an
instrument) ceir "chwarae, seinio, occ. canu".
Ai dim ond meddwl mai "canu" sy'n iawn am ei fod yn wahanol i'r Saesneg y mae pobl?

Diolch
Siân