'Canu piano' ddysgais i wrth dyfu lan, ond alla i ddim meddwl am rwyun yn canu gitar drydan neu ddrymie nac yn chwarae piano neu ffidil. Falle taw fi sy'n rhyfedd - paid ateb, Mag Ualghairg. Hg 2008/10/9 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Mae tuedd i feddwl mai "canu offeryn" - yn enwedig y piano a'r delyn - sy'n > gywir yn y > Gymraeg er mai "chwarae" y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud yn > naturiol. A oes sail > dros hyn? > Yn ôl GPC, mae'r ddau ymadrodd yn digwydd ym Meibl 1588, ac yn GyrA o dan > "play (an > instrument) ceir "chwarae, seinio, occ. canu". > Ai dim ond meddwl mai "canu" sy'n iawn am ei fod yn wahanol i'r Saesneg y > mae pobl? > > Diolch > Siân >