Mae tuedd i feddwl mai "canu offeryn" - yn enwedig y piano a'r delyn - sy'n gywir yn y Gymraeg er mai "chwarae" y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei ddweud yn naturiol. A oes sail dros hyn? Yn ôl GPC, mae'r ddau ymadrodd yn digwydd ym Meibl 1588, ac yn GyrA o dan "play (an instrument) ceir "chwarae, seinio, occ. canu". Ai dim ond meddwl mai "canu" sy'n iawn am ei fod yn wahanol i'r Saesneg y mae pobl? Diolch Siân