'dadansoddi'r ailadrodd syml ar ddilyniant', felly? Mewn maes or'fath, wrth gwrs, gallai hefyd olygu 'dadansoddi dilyniannau' ... Berwyn ----- Original Message ----- From: "Heledd Davies [hid]" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, October 29, 2008 1:15 PM Subject: Re: Simple Sequence Repeat Berwyn, Mae'n gysyniad ar ei ben ei hun mewn brawddeg sy'n rhestru dyletswyddau Technegydd Ymchwil, (rwy'n cyfieithu disgrifiad swydd). Yr 'SSR analysis' sydd dan sylw: "The post will involve plant genomic DNA extraction, PCR, cloning, SSR analysis; and plant growth measurements. The appointment will be for 6 months to provide maternity cover." Diolch yn fawr iawn i chi am eich cymorth, Heledd -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Berwyn Jones Sent: 29 October 2008 12:59 To: [log in to unmask] Subject: Re: Simple Sequence Repeat Mewn anwybodaeth lwyr o'r maes, tybed ai'r cyfieithiad mwyaf hwylus fyddai 'ailadrodd syml ar ddilyniant'. Ai ymadrodd ar ei ben ei hun sydd yma, neu a oes berf yn y frawddeg? Os oes berf: mae/ceir/gwelir ailadrodd syml ar ddilyniant/ar y dilyniant Dewis arall fyddai: ceir/gwelir (bod) y dilyniant yn ei ailadrodd ei hun yn syml Rwy'n cymryd mai'r ailadrodd sy'n syml, nid y dilyniant. Os y dilyniant, 'ailadrodd dilyniant syml': mae/ceir/gwelir ailadrodd ar ddilyniant syml neu ceir/gwelir (bod) y dilyniant syml yn ei ailadrodd ei hun Gwell holi arbenigwr yn gyntaf, efallai, i gael gwybod i beth y mae'r ansoddair 'syml' yn perthyn. Berwyn ----- Original Message ----- From: "Heledd Davies [hid]" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, October 29, 2008 9:58 AM Subject: Simple Sequence Repeat Y cyd-destun yw DNA a ffisioleg planhigion. Diolch ymlaen llaw am bob cymorth. Heledd ------------------------------------------------------------------------ -------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.175 / Virus Database: 270.8.4/1753 - Release Date: 28/10/2008 21:20 -------------------------------------------------------------------------------- No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.175 / Virus Database: 270.8.4/1753 - Release Date: 28/10/2008 21:20