Wel, diolch byth am hynny. ----- Original Message ----- From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Monday, October 06, 2008 4:18 PM Subject: Re: ATB: ATB: ATB: Alt + A > On Oct 06, 2008, Carolyn Iorwerth wrote: >> Sori, Dafydd - methu cyfri chwaith! Ond mae Alt Gr 6 a'r llythyren wedyn >> dipyn yn fwy trwsgwl nag Alt a efo'r un llaw (yn enwedig pan wyt ti wedi >> bod >> yn gwneud hynny am 20 mlynedd!. Os ydw i'n dewis y symbol wrth fynd i >> Mewnosod Symbol yn XP ac wedyn yn gosod fy llwybr byr fy hun - ydi >> hynny'n >> golygu mai un Unicode ydw i'n ei ddefnyddio? > > Dwi ddim yn meddwl fod angen poeni gormod am hyn. Mi fydd unrhyw > feddalwedd Office (o leia 2002 ymlaen a bosib cyn hynny) yn newid > popeth i fformat safonol yn fewnol. O leia dyna dwi'n weld ar fy > nghopi i. > > Sdim ots os dwi'n teipio alt-131, neu ctrl+^,a neu alt-gr+^,a yr un > llythyren sy'n cael ei storio yn y ffeil, nod rhif '00E2' yn is-set > Lladin-1 o Unicode (sef a to-bach). > > Hynny yw, mae e i gyd yn cael ei drosi'n fewnol i Unicode. > > Yr unig lle oedd angen fod yn ofalus yn y gorffennol os oedd rhywun yn > ddefnyddio ffontiau 'celtaidd' arbennig oedd ddim yn cofnodi'r nodau > Cymreig yn y man cywir, ond dwi wedi gweld angen defnyddio rheiny ers > Windows 98! >