Sori, Dafydd - methu cyfri chwaith! Ond mae Alt Gr 6 a'r llythyren wedyn dipyn yn fwy trwsgwl nag Alt a efo'r un llaw (yn enwedig pan wyt ti wedi bod yn gwneud hynny am 20 mlynedd!. Os ydw i'n dewis y symbol wrth fynd i Mewnosod Symbol yn XP ac wedyn yn gosod fy llwybr byr fy hun - ydi hynny'n golygu mai un Unicode ydw i'n ei ddefnyddio? -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Dafydd Tomos Anfonwyd/Sent: 06 Hydref 2008 14:49 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: ATB: ATB: Alt + A On Oct 06, 2008, Carolyn Iorwerth wrote: > Digon teg Dafydd, ond mae Alt Gr ^ a'r llythyren yn 4 proses ac yn eitha > trwsgwl i bobl sydd yn teipio llythrennau efo acenion drwy'r dydd. Dyna pam > fod Deinosoriaid fel fi'n defnyddio hen drefn sydd yn ail natur wrth deipio. Dau 'stroc' i fi.. alt-gr + 6 ar yr un pryd, wedyn y llafariad (shift i gael prif lythyren fel arfer). I gael prif lythrennau gyda To Bach rhaid taro tri bysell yr un pryd? Dwi ddim yn touch-typist o bell ffordd. (Mae teipio'r acenion eraill yn defnyddio'r un cyfuniad bysellau a To Bach, heblaw fod yr acen ddyrchafedig yn symlach - alt-gr + llafariad.)