Cymrawd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ydw i wedi fy ngalw fy hun ers blynyddoedd a does yna neb wedi sbio'n gam arna i hyd yn hyn. Dw i'n amau mod i wedi gweld Cymrawd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn rhywle hefyd. Wil David Bullock wrote: > Am ein bod ni'n gorfod dweud a dweud wrth bobl am beidio ag ysgrifennu > pethau fel 'y gost o adeiladu garej' (> 'cost adeiladu garej), ydyn ni wedi > mynd i amau cystrawennau gydag 'o' , hyd yn oed pan fyddan nhw'n gywir? > > > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Siān Roberts > Anfonwyd/Sent: 05 Medi 2008 12:17 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: Fellow > > Ydi, ond ai "Cymrawd o'r Academi Frenhinol Gymreig" sy'n gywir? - mae > hynny'n swnio fel "from" i mi - er bod "aelod o" a "rhan o" yn iawn. > Mae rhai enghreifftiau o "Mae'n Gymrawd yr Academi ...." ar y we, ond > mae hynny'n swnio'n chwithig hefyd gan fod mwy nag un Cymrawd. > Ro'n i wedi meddwl dod rownd iddi fel yr awgrymodd Annes ond mae'r > frawddeg yn mynd ymlaen i ddweud ei fod yn Gymrawd Anrhydeddus mewn > rhyw sefydliad arall a dydw i ddim yn siwr a oes mwy nag un Cymrawd > Anrhydeddus - ond byddai'n handi i gael gwybod at y dyfodol beth bynnag. > > Cymrawd mewn/yn ? > > Diolch eto > > Siān > > > > On 5 Sep 2008, at 11:52, Berwyn Jones wrote: > > >> Mae 'Cymrawd' yn gwbl dderbyniol mewn cylchoed acaemaidd a thu hwnt. >> >> Berwyn >> >> ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" >> <[log in to unmask]> >> To: <[log in to unmask]> >> Sent: Friday, September 05, 2008 9:43 AM >> Subject: Fellow >> >> >> >> Helo >> Sut mae dweud "He is a Fellow of the Royal Cambrian Academy"? >> Mae "Mae'n Gymrawd o'r Academi Frenhinol Gymreig" yn swnio'n >> chwithig i mi - er, wrth >> gwrs, bod "Mae'n aelod o ..." yn iawn. Dydi "Mae'n Gymrawd yr >> Academi ..." ddim yn >> swnio'n iawn chwaith >> Mae 'na enghreifftiau o "Mae'n Gymrawd o ..." ac "Mae'n Gymrawd >> yr ..." ar y we. >> Dw i'n cael fy nhemtio i ddod rownd y broblem trwy ddweud "Mae'n un >> o Gymrodyr yr >> Academi ..." >> >> >> >> ---------------------------------------------------------------------- >> ---------- >> >> >> >> No virus found in this incoming message. >> Checked by AVG - http://www.avg.com >> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.16/1652 - Release Date: >> 04/09/2008 18:54 >> ------------------------------------------------------------------------ >> >> >> No virus found in this incoming message. >> Checked by AVG - http://www.avg.com >> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.16/1653 - Release Date: 05/09/2008 06:57 >> >>