----- Original Message -----
Sent: Sunday, August 31, 2008 7:50
PM
Subject: Re: Iaith y Daily Post
Tua 5 neu 6 blynedd yn ol roedd gan Radio 4 restr Deg Uchaf o betha
ych-a-pych oedd wedi sleifio i mewn fwyfwy. Dwi'n difaru f'enaid na ddaru mi
mo'u taro nhw ar bapur achos roedden nhw'r union betha oedd yn dan ar fy
nghroen inna. Dyna pam na ddaru mi mo'u taro nhw ar bapur, gan feddwl y baswn
i'n eu cofio nhw. Ysywaeth gwae fi ac achon dyw i ddim yn eu cofio nhw
bellach. Eniwe. Mae'r gwahaniaeth rhwng may a might i mi yn bwysig iawn -
efallai bod rhywun wedi llwyddo i rwystro'r tan ta efallai y buasai'n bosib i
rywun fod wedi llwyddo i rwystro'r tan? Byd o wahaniaeth. Un arall ar y rhestr
oedd y defnydd hyll o ahead of yn lle before sy'n rhemp ar Radio 4. Dwi'm yn
cofio'r 8 arall ond os taran nhw mhen i mo roi wbod.. Gresyn na fasa pawb wedi
cael yr addysg ramadegol fanwl gywir gafodd rhai ohonan ni, mae'n amlwg.
Pleser bob amser sgwrsio a phedant arall!
Annes
2008/8/31 Ann Corkett
<[log in to unmask]>
Mae'n
dibynnu beth 'dych chi'n ei feddwl wrth "annealladwy". Gellid anwybyddu
ambell "she was sat" yn lle "she was sitting", a gwallau sydd yn amlwg yn
codi o newid y testun heb ei newid yn llwyr (newydd newid un o'r rheina yn
nhestun y neges hon). Mae'r defnydd o "may" yn lle "might" neu "could" yn
mynd yn fwyfwy cyffredin, ac er nad yw bob amser yn gwneud erthygl yn
annealladwy, mae weithiau'n golygu ei hail-ddarllen er mwyn deall yn iawn a
oedd rhywbeth wedi bod mewn perygl o ddigwydd, ynteu a yw o mewn perygl o
ddigwydd o hyd.
Hyn oedd yn fy meddwl wrth ofyn, a ddylai rhywun
ysgrifennu at yr awdur ynteu at y golygydd. 'Doeddwn i ddim yn meddwl am
ysgrifennu at y golygydd i gwyno am un gwall gan un unigolyn, ond
ysgrifennu'n gyffredinol, lle mae gwall fel hyn yn mynd yn rhemp trwy gydol
y papur, a chan sawl gohebydd. Mae gan "The Times" er enghraifft, ganllawiau
arddull ar gyfer ei ohebyddion, fel y mae gan y Cynulliad rywbeth
tebyg.
Mae'n debyg fy mod in bedant - yn bedant pendant - er y
ceisiaf beidio a bod yn drwynsur. Efallai'r unig ateb bydd imi gael fy
ngholofn fy hun yn rhywle, lle gallaf gwyno wrth fodd fy nghalon.
O
ran bod a dim byd gwell i'w wneud; mae'n ddrwg gen i fod mor "siaradus", ond
gyda chymaint o bobl ar eu gwyliau, a chyn lleied yn cyfrannau at y cylch,
mae'n hawdd anghofio nad ydym ond rhyw hanner dwsin o bobl yn cael sgwrs.
'Taswn i ddim mor brysur - fy mai i: cam-amserlennu gwaith - ac wrth y
cyfrifiadur bore, dydd a nos - fuaswn i ddim yn ymuno yn y sgwrs mor aml fel
ychydig o ddifyrrwch! "Sad"- trist, ynteu?
Yn ol at y
gwaith,
Ann
.
----- Original Message ----- From: "Inc
Cyfieithu Translations" <[log in to unmask]>
Sent:
Saturday, August 30, 2008 7:15 PM
Subject: Re: Iaith y Daily Post
Hmm.
Beirniadu nid cael eu beirniadu mae newyddiadurwyr. Oni bai bod
y
tri gwall yn gwneud yr erthygl yn annealladwy fy nheimlad i yw
y
byddai'r newyddiadurwr yn taflu unrhyw gwyn i'r bin ac yn gweld
y
beirniad yn bedant trwynsur heb ddim gwell i'w wneud na phigo beiau
mewn
gwaith pobl eraill. Gweler Pedants Corner yn Private
Eye
Wil
Ann Corkett wrote:
Ymateb
i neges Osian Rhys, dan "sick":
Diolch am dynnu ein sylw at hyn, ond
mae'n f'atgoffa i o gwestiwn
arall a gododd dan "Eryri
Gwyrdd".
Os yw hi'n embaras gwybod sut i feirniadu Cymraeg
cyhoeddus pobl heb
fod yn negyddol, a oes modd mynd ati i feirniadu
Saesneg gohebyddion
mewn modd adeiladol?? Sut mae dweud wrth un o
ohebyddion y Daily Post,
er enghraifft, bod tri gwall gramadeg mewn
un erthygl ganddo? Ai ato
fo yn breifat, ynteu at y golygydd, y
dylai rhywun ysgrifennu - a pha
mor
aml?
Ann
------------------------------------------------------------------------
No
virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus
Database: 270.6.13/1642 - Release Date: 29/08/2008
18:12
--------------------------------------------------------------------------------
No virus found in this incoming
message.
Checked by AVG -
http://www.avg.comVersion: 8.0.169 / Virus Database:
270.6.13/1642 - Release Date: 29/08/2008
18:12