Ydw ambell waith. Dwi'n rhyw ddyfalu ei fod o'n rhywbeth i'w wneud efo diwyg y ddogfen - dw i'n dueddol i gael y neges yma pan fydd llawer o graffiau a thablau ac ati mewn dogfen. Beth dw i'n dueddol o wneud ydi stopio cysill a symud y 'cursor' i lawr heibio'r graff ac ailddechrau cysill o'r pwynt hwnnw ymlaen, yna mae'n dechrau byhafio (tan iddo gyrraedd y graff nesa!). Rhian Canolfan Iechyd Cymru ________________________________ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of annes gruffydd Sent: 30 September 2008 13:44 To: [log in to unmask] Subject: Cysill Bocs bach efo'r neges 'External Exception EEFFACE' yn ymddangos droeon lawer yn yr un ddogfen ac yn y rhan fwya o ddogfenni. Oes rhywun arall a) yn cael yr un drafferth b) yn ei dallt/yn gwbod pam? c) yn gwbod be i'w neud yn ei chylch? Diolch Annes