Mae chwiliad cyflym ar wefan OPSI yn
dangos bod y Cynulliad wedi defnyddio ‘dosbarthau’ a ‘dosbarthiadau’
mewn deddfwriaeth ac alla i ddim gweld patrwm amlwg ar unwaith, ond weithiau o
leia mae ‘dosbarthiadau’ yn golygu ‘classifications’.
Ydy’r ffaith bod ‘classifications’
a ‘classes’ yn wahanol wedi bod yn gymhelliant i’r
cyfieithwyr cyfraith a’r cyfreithwyr gadw ‘dosbarthiad(au)’
ar gyfer ‘classification(s)’ a ‘dosbarth(au)’ ar gyfer ‘class(es)’
mewn rhai o’r testunau hyn o leia?
Oddi wrth/From:
Anfonwyd/Sent: 02 Medi 2008 10:15
At/To:
[log in to unmask]
Pwnc/Subject: Classes (of
information)
Bore Da bawb
Tybed all
rywun roi arweiniad ar yr uchod?
Mae cymysgedd o 'dosbarthau' a 'dosbarthiadau' ar TermCymru -
ond statws 4 sydd i'r cyfan.
Mae GyrA yn cynnig y ddau, yn ogystal â 'categorïau', sef yr
hyn y byddwn i'n ei ddefnyddio'n reddfol, ac yng Ngeiriadur y Gyfraith dim ond
'dosbarthiadau' sydd. Mae'r ddogfen yn ymwneud â'r Ddeddf Rhyddid
Gwybodaeth felly wn i ddim a oes gwahaniaeth cyfreithiol rhwng 'dosbarthiadau',
'dosbarthau' a 'categorïau'? Yn falch o unrhyw arweiniad.
Gan ddiolch ymlaen llaw
Rhian
Rhian Huws
Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist
Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health
14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road
Caerdydd/Cardiff
CF11 9LJ
Llinell Uniongyrchol/Direct Line: 029 2082 7622
Rhif Canolog/Switchboard: 029 2022 7744
E-bost/E-mail: [log in to unmask]
Ystyriwch
yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn - diolch / Please consider the
environment before printing this email - thank you