Print

Print


Classes (of information)

Bore Da bawb
Tybed all rywun roi arweiniad ar yr uchod?

Mae cymysgedd o 'dosbarthau' a 'dosbarthiadau' ar TermCymru - ond statws 4 sydd i'r cyfan.

Mae GyrA yn cynnig y ddau, yn ogystal â 'categorïau', sef yr hyn y byddwn i'n ei ddefnyddio'n reddfol, ac yng Ngeiriadur y Gyfraith dim ond 'dosbarthiadau' sydd.  Mae'r ddogfen yn ymwneud â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth felly wn i ddim a oes gwahaniaeth cyfreithiol rhwng 'dosbarthiadau', 'dosbarthau' a 'categorïau'? Yn falch o unrhyw arweiniad.

Gan ddiolch ymlaen llaw

Rhian

Rhian Huws
Arbenigwr Iaith Gymraeg/Welsh Language Specialist
Canolfan Iechyd Cymru/Wales Centre for Health
14 Ffordd yr Eglwys Gadeiriol/14 Cathedral Road
Caerdydd/Cardiff
CF11 9LJ
Llinell Uniongyrchol/Direct Line: 029 2082 7622
Rhif Canolog/Switchboard: 029 2022 7744
E-bost/E-mail: [log in to unmask]
Ystyriwch yr amgylchedd cyn argraffu'r e-bost hwn - diolch /  Please consider the environment before printing this email - thank you