Print

Print


Does gen i ddim ateb ond tybed ydi 'am fod yno, doed a ddelo ...' yn  
awgrymu rhyw fath o argyfwng - hynny yw, na wnaeethon ni droi eu  
cefnau arni ar adegau anodd?
Rhywbeth fel 'pe bai dim ond am fod yno' - 'ta ydi hynny'n rhy debyg  
i gynnig Bruce?

O diar - un anodd!
Siân
On 2 Sep 2008, at 07:37, David Bullock wrote:

> Fyddai rhywbeth fel ‘am fod yno, doed a ddelo…’ yn addas?
>
>
>
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology  
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran  
> Ann Corkett
> Anfonwyd/Sent: 01 Medi 2008 23:23
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: for just being there ...
>
> Diolch, Ioan, ond mae son am gefnogaeth yn nes ymlaen yn y  
> frawddeg.  Y "just" sydd yn fy nrysu.  Efallai bydd yn rhaid imi ei  
> hepgor yn gyfan gwbl!
>
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: Ioan Davies
> To: [log in to unmask]
> Sent: Monday, September 01, 2008 5:07 PM
> Subject: ATB: for just being there ...
>
> Beth am “am fod yn gefn i mi?”
>
> Ioan
>
> Cymen Cyf.
>
> '     01286 67 44 09
> +    Cymen, Twll yn y Wal, Caernarfon. LL55 1RF
> ˙     www.cymen.co.uk
> :     [log in to unmask]
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology  
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran  
> Ann Corkett
> Anfonwyd/Sent: 01 September 2008 17:06
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: for just being there ...
>
> Y cyd-destun: rhan o'r diolchiadau ar ddechrau llyfr:
>
> My Mum and Dad - for just being there, for unending love and  
> support and for helping with selection and proof reading
>
> Mae Bruce wedi awgrym "dim ond am fod yno, am gariad a chefnogaeth  
> ddi-ben-draw ac ati..."
> 'Dw i'n dechrau drysu, ond 'dyw o ddim yn swnio cweit yr un peth i  
> mi, yn fwy "just for being there" - os ydy hynny'n wahanol.
>
> Help!
>
> Ann
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.14/1646 - Release Date:  
> 01/09/2008 18:03