Print

Print


Dwi ddim yn credu fod dweud 'amlwg' yn lle breakthrough yn ail hanner y frawddeg dan sylw yn 'addasu' - mae'n dilyn y 'cyrraedd aeddfedrwydd' on'd ydy?

Catrin


----- Original Message ----
From: Berwyn Jones <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 16 September, 2008 11:48:01 AM
Subject: Re: breakthrough


Na, arfer barn broffesiynol!
 
Berwyn
----- Original Message ----- 
From: annes  gruffydd 
To: [log in to unmask] 
Sent: Tuesday, September 16, 2008 11:02  AM
Subject: Re: breakthrough

Tragywydd heol felly?!
 
Annes


2008/9/16 Berwyn Jones <[log in to unmask]>

Wela i ddim o'i le ar hepgor ambell elfen  flodeuog os nad yw hynny'n amharu ar y cyfieithiad, dim ond bod dyn yn  cynnwys yn ei gyfieithiad ddigon o'r blodeuogrwydd i gyfleu naws ac  arddull y gwreiddiol. (Pan gyfieithiodd Bruce Yr Argae,fe hepgorodd  dudalennau cyfan am fod y traethu ynddyn nhw'n 'ddiflas', chwedl  yntau.)
 
Berwyn
----- Original Message ----- 
From: annes gruffydd 
To: [log in to unmask] 
Sent: Tuesday, September 16, 2008  10:05 AM
Subject: Re: breakthrough

Mae hyn yn dod a ni nol at drafodaeth a fu beth amser yn ol, a  gychwynnodd Ann os da y cofiaf:- i ba radda mae gynnon ni'r hawl i fod yn  olygyddion? Wrth reswm fydda i ddim yn efelychu gramadeg gwallus (mi fasa  hynny'n hwyl, yn basa) ac mi fydda i'n cywiro atalnodi. Ac os ydi rwbath  yn lol botas maip ac yn gwbwl annealladwy fydda i'n ei dacluso. Ond os  ydi'r Saesneg yn flodeuog oes gen i'r hawl i newid ei gywair? Does na ddim  atab syml decini. Chwedl Oscar Wilde (jyst iawn) [translation] 'is rarely  pure and never simple'.
 
Annes


2008/9/15 CATRIN ALUN <[log in to unmask]>

Fyddai dweud 'a'i ddau ddarn amlwg cyntaf ...' yn ddigon tybed?  Mae'r Saesneg mor flodeuog!

Catrin


----- Original Message ----
From: annes gruffydd <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]

Sent: Monday, 15 September, 2008 10:07:08 AM
Subject: Re:  breakthrough


Dyma'r frawddeg John:-
 
Vaughan Williams took time  to reach his first maturity: the two breakthrough pieces were A Sea  Symphony (1903–9) and the Fantasia on a Theme by Thomas Tallis (1910). 
 
Annes


2008/9/15 John Puw <[log in to unmask]>

Pa ddarn gan V-W wyt ti'n sgwennu amdano Annes? 



----- Original Message ----- 
From: annes gruffydd 
To: [log in to unmask] 
Sent: Saturday,  September 13, 2008 11:14 PM
Subject: breakthrough

Ga i fynd yn ol at yr anghenfil yma? Dyma daro mhen i  heno ella basa tro arwyddocaol yn un ffordd o'i gyfleu. Ac  wedyn dyma feddwl wedyn ella basa tro ar ei ben ei hun yn  ddigon? Er enghraifft 'daeth tro Vaughan Williams pan...'  Ne  os oes yna rywbeth neilltuol wedi'i ddiffinio,  'daeth y tro yng ngyrfa V W pan...' Be dach chi'n feddwl?  Ydi hynna'n cyfleu breakthrough ta ydi o'n rhy amwys? Ne  ella mai'i amwyster ydi'i fantais gan fod tro yn Gymraeg  yn golygu cymaint o betha? Tro lwcus, tro yng nghynffon,  tro am wlad, tro i neud rwbath etc etc etc. Mwya dwi'n  meddwl amdano fo mwya dwi'n ei lecio fo. E.e. 'Ym 1898 y  daeth ei dro pan aeth Amrywiadau Enigma a hi yn  ysgubol' (Elgar rwan) - may hynna i mi yn swnio'n  eitha fel breakthrough. Diolch ymlaen llaw am eich  sylwada.
 
Annes
________________________________
 
No virus found in this incoming  message.
Checked by AVG - http://www.avg.com 
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 -  Release Date: 14/09/2008 07:16


________________________________
 
No virus found in this incoming message.
Checked  by AVG - http://www.avg.com 
Version: 8.0.169 /  Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date: 14/09/2008  07:16


________________________________
 
No virus found in this incoming message.
Checked by  AVG - http://www.avg.com 
Version: 8.0.169 / Virus  Database: 270.6.21/1671 - Release Date: 14/09/2008 07:16





________________________________
 
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com 
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1673 - Release  Date: 15/09/2008 18:49


________________________________
 
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG -  http://www.avg.com 
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1673 -  Release Date: 15/09/2008 18:49