Mae hyn yn dod a ni nol at drafodaeth a fu beth amser yn ol, a gychwynnodd Ann os da y cofiaf:- i ba radda mae gynnon ni'r hawl i fod yn olygyddion? Wrth reswm fydda i ddim yn efelychu gramadeg gwallus (mi fasa hynny'n hwyl, yn basa) ac mi fydda i'n cywiro atalnodi. Ac os ydi rwbath yn lol botas maip ac yn gwbwl annealladwy fydda i'n ei dacluso. Ond os ydi'r Saesneg yn flodeuog oes gen i'r hawl i newid ei gywair? Does na ddim atab syml decini. Chwedl Oscar Wilde (jyst iawn) [translation] 'is rarely pure and never simple'.
 
Annes

2008/9/15 CATRIN ALUN <[log in to unmask]>
Fyddai dweud 'a'i ddau ddarn amlwg cyntaf ...' yn ddigon tybed? Mae'r Saesneg mor flodeuog!

Catrin

----- Original Message ----
From: annes gruffydd <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, 15 September, 2008 10:07:08 AM
Subject: Re: breakthrough

Dyma'r frawddeg John:-
 
Vaughan Williams took time to reach his first maturity: the two breakthrough pieces were A Sea Symphony (1903–9) and the Fantasia on a Theme by Thomas Tallis (1910).

 

Annes


2008/9/15 John Puw <[log in to unmask]>
Pa ddarn gan V-W wyt ti'n sgwennu amdano Annes?


----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" rel="nofollow">annes gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank" rel="nofollow">[log in to unmask]
Sent: Saturday, September 13, 2008 11:14 PM
Subject: breakthrough

Ga i fynd yn ol at yr anghenfil yma? Dyma daro mhen i heno ella basa tro arwyddocaol yn un ffordd o'i gyfleu. Ac wedyn dyma feddwl wedyn ella basa tro ar ei ben ei hun yn ddigon? Er enghraifft 'daeth tro Vaughan Williams pan...' Ne  os oes yna rywbeth neilltuol wedi'i ddiffinio, 'daeth y tro yng ngyrfa V W pan...' Be dach chi'n feddwl? Ydi hynna'n cyfleu breakthrough ta ydi o'n rhy amwys? Ne ella mai'i amwyster ydi'i fantais gan fod tro yn Gymraeg yn golygu cymaint o betha? Tro lwcus, tro yng nghynffon, tro am wlad, tro i neud rwbath etc etc etc. Mwya dwi'n meddwl amdano fo mwya dwi'n ei lecio fo. E.e. 'Ym 1898 y daeth ei dro pan aeth Amrywiadau Enigma a hi yn ysgubol' (Elgar rwan) - may hynna i mi yn swnio'n eitha fel breakthrough. Diolch ymlaen llaw am eich sylwada.
 
Annes



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date: 14/09/2008 07:16




No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date: 14/09/2008 07:16




No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date: 14/09/2008 07:16