Does gen
i ddim barn bendant, ond mi fydda i'n dilyn awgrymiadau Geiriadur yr Academi yn
reit driw fel arfer.
Wn i
ddim a yw 'limerick' / limrig yn disgyn i'r un categori, ond mi welodd rhywun yn
dda i Gymreigio hwnnw rhyw dro, ac mae hwnnw wedi gafael yn
sicr.
Cofion
gorau,
Huw arall
Helo bawb,
Beth yw eich barn dros y gair
yma? Mae arwyddion wedi eu codi ger Llandudno yn cyfeirio at fan Iechyd a Sba,
Neuadd Bodysgallen. Yn y Saesneg Spa yw'r gair, ond mae'r gair yn deillio o enw
tref yng Ngwlad Belg. Yn ogystal a hyn, sba sydd yng Ngeiriadur yr Academi.
Ydio'n gywir i fod yn cyfieithu geiriau penodol fel hyn?
Diolch o flaen
llaw am unrhyw gymorth,
Huw Waters
Try Facebook in Windows Live Messenger! Try it
Now!