Does gen i ddim barn bendant, ond mi fydda i'n dilyn awgrymiadau Geiriadur yr Academi yn reit driw fel arfer. Wn i ddim a yw 'limerick' / limrig yn disgyn i'r un categori, ond mi welodd rhywun yn dda i Gymreigio hwnnw rhyw dro, ac mae hwnnw wedi gafael yn sicr. Cofion gorau, Huw arall ________________________________ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Huw Waters Anfonwyd/Sent: 15 September 2008 12:13 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Spa/Sba Helo bawb, Beth yw eich barn dros y gair yma? Mae arwyddion wedi eu codi ger Llandudno yn cyfeirio at fan Iechyd a Sba, Neuadd Bodysgallen. Yn y Saesneg Spa yw'r gair, ond mae'r gair yn deillio o enw tref yng Ngwlad Belg. Yn ogystal a hyn, sba sydd yng Ngeiriadur yr Academi. Ydio'n gywir i fod yn cyfieithu geiriau penodol fel hyn? Diolch o flaen llaw am unrhyw gymorth, Huw Waters ________________________________ Try Facebook in Windows Live Messenger! Try it Now! <http://clk.atdmt.com/UKM/go/111354030/direct/01/>