Beth yn union yw ystyr 'breakthrough' yn y cyd-destun sy 'da ti?
 
Ai 'dod i amlygrwydd/i sylw'r cyhoedd', 'cyrraedd cynulleidfa ehangach', 'dechrau o ddifrif ar ei yrfa', dod yn enowg/ennill enwogrwydd', 'torri trwodd', 'gwelodd ei yrfa dro ar fyd', 'daeth haul ar fryn'?
 
Neu rywbeth arall?
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">annes gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Saturday, September 13, 2008 11:14 PM
Subject: breakthrough

Ga i fynd yn ol at yr anghenfil yma? Dyma daro mhen i heno ella basa tro arwyddocaol yn un ffordd o'i gyfleu. Ac wedyn dyma feddwl wedyn ella basa tro ar ei ben ei hun yn ddigon? Er enghraifft 'daeth tro Vaughan Williams pan...' Ne  os oes yna rywbeth neilltuol wedi'i ddiffinio, 'daeth y tro yng ngyrfa V W pan...' Be dach chi'n feddwl? Ydi hynna'n cyfleu breakthrough ta ydi o'n rhy amwys? Ne ella mai'i amwyster ydi'i fantais gan fod tro yn Gymraeg yn golygu cymaint o betha? Tro lwcus, tro yng nghynffon, tro am wlad, tro i neud rwbath etc etc etc. Mwya dwi'n meddwl amdano fo mwya dwi'n ei lecio fo. E.e. 'Ym 1898 y daeth ei dro pan aeth Amrywiadau Enigma a hi yn ysgubol' (Elgar rwan) - may hynna i mi yn swnio'n eitha fel breakthrough. Diolch ymlaen llaw am eich sylwada.
 
Annes



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date: 14/09/2008 07:16