Print

Print


Mae angen bod yn ofalus wrth drin termau fel hyn.
 
Gall unigolyn fod yn gymdeithasgar (h.y. yn hoffi cwmni pobl eraill, boed hwy'n wrthgymdeithasol neu beidio) ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol (drwy falu ffenestri siopau). Gall unigolyn arall fod yn anghymdeithasol ond ymddwyn mewn ffordd sydd er budd cymdeithas, hynny yw, yn 'pro-gymdeithasol'.
 
Er na alla i ddim â dweud 'mod i'n hoffi 'pro-gymdeithasol' fel ffurf - byddai'n well gen i ryw ymadrodd fel 'er budd/lles cymdeithas', ond fe all na fydd hwnnw'n taro bob tro -byddwn i'n ei ddefnyddio petai angen cyferbynnu'n gryno rhwng y ddau beth.
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw Garan
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, September 10, 2008 1:35 PM
Subject: ATB: pro-social

Cafwyd trafodaeth am hyn ryw tair blynedd yn ol dan y teitl prosocial (http://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?S2=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&q=prosocial&s=&f=&a=&b=).  Cymdeithasgar oedd y cynnig mwyaf poblogaidd bryd hynny rwy'n meddwl.
 
Hg
 
 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Jones
Anfonwyd/Sent: 10 September 2008 11:33
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: pro-social

Mae dwy enghraifft o 'pro-gymdeithasol' ar y we, e.e. 'Mae hyn yn annog ymddygiad pro-gymdeithasol yn hytrach na gwrth-gymdeithasol ac yn darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar y troseddwyr i fyw bywyd heb droseddu.' Ydi hynny'n bosibilrwydd? Mae 'pro-niwclear', 'pro-Gymreig' etc. dan pro- yn GyrA.
Rhian  
 

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG.
Version: 8.0.100 / Virus Database: 0.0.0/0 - Release Date: 00:00



No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.19/1664 - Release Date: 10/09/2008 06:00