O ddarllen y llith yma
http://www.wiw.org.uk/Research%20Methodology.pdf
dwi’n cymryd mai unigolion yw’r rhain o blith
y bobl y mae academyddion yn gwneud ymchwil i’w sefyllfa. Hynny yw, nid jyst
pobl y gofynnir iddynt am eu profiadau ac ati fel rhan o'r ymchwil, ond rhai sy’n
gwneud gwaith ymchwil gyda’r academyddion.
Yn y darn sydd gen i o ’mlaen, digartrefedd yw’r
maes, ac ar y wefan uchod merched mewn carchardai sydd dan sylw.
Ymddengys fod Connexions, gwasanaeth cyngor a
gwybodaeth y Llywodraeth i bobl ifanc, yn defnyddio’r term i olygu pobl sy’n
esgus bod yn rhan o grŵp penodol er mwyn gwneud ymchwil.
http://www.apply-sthelens.com/newsarticle.asp?slevel=0z11&parent_id=11&renleewtsapf=16
Ymchwilwyr rhywbeth, mae’n amlwg, ond
ymchwilwyr beth?
Diolch am unrhyw gymorth.
Claire