A finna mewn dogfennau hir llawn tablau. Does gen i ddim syniad beth sy'n ei achosi, ond mi fydda i'n clicio ar y testun yn ffenestr Cysill, gwasgu space a delete neu rhywbeth felly wedyn mae'n bosibl gwasgu'r botwm Gwirio ac ailafael yn y gwaith.
2008/9/30 Rhian Huws
<[log in to unmask]>
Ydw ambell waith. Dwi'n rhyw ddyfalu ei fod o'n rhywbeth i'w wneud
efo diwyg y ddogfen - dw i'n dueddol i gael y neges yma pan fydd llawer o
graffiau a thablau ac ati mewn dogfen. Beth dw i'n dueddol o wneud ydi stopio
cysill a symud y 'cursor' i lawr heibio'r graff ac ailddechrau cysill o'r pwynt
hwnnw ymlaen, yna mae'n dechrau byhafio (tan iddo gyrraedd y graff nesa!).
Rhian
Canolfan Iechyd Cymru
From: Discussion of Welsh language technical
terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of annes gruffydd
Sent: 30 September 2008
13:44
To: [log in to unmask]
Subject:
Cysill
Bocs bach efo'r neges 'External Exception EEFFACE' yn ymddangos droeon
lawer yn yr un ddogfen ac yn y rhan fwya o ddogfenni. Oes rhywun arall a) yn
cael yr un drafferth b) yn ei dallt/yn gwbod pam? c) yn gwbod be i'w neud yn ei
chylch? Diolch
Annes