Print

Print

Da iawn eto Ann, rwyt ti yn yr hwyl heddiw! Mae'r drafodaeth breakthrough ma wedi bod yn gaffaeliad mawr, diolch i bawb. Bois bach, taswn i'n treulio run faint o amser yn pendronni uwch y lol botas maip mae'r bobol ma'n ei sgwennu a dan ni wedi'i dreulio'n son am breakthrough, o gofio mai un frawddeg yn unig ydi hon o 10 tudalen sy'n heigio o frawddega tebyg (yn amlach na heb mae na fwy na 10 tudalen) mi faswn i wedi hen golli hynny o bwyll sydd weddill i mi ond fasa dim ots am hynny achos mi faswn i wedi marw o newyn ers talwm neu'n nychu mewn cell yn fethdalwr. Dwi'n mynd am ginio rwan a glasiad o win. Mae'r cyngerdd ar 28 Medi yn Neuadd Dewi Sant gyda llaw os oes ar rywun isio gweld y rhaglen sy'n llawn o bobol yn ennill eu plu!
 
Annes

2008/9/15 Ann Corkett <[log in to unmask]>
Rhaid i bedantiaid "flock together"!
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Monday, September 15, 2008 11:29 AM
Subject: Re: breakthrough

Yr hen gingroen! Wedyn dan ni'n colli'r joc plwy/plu allai ella roi mbach o hwyl i gyngherddwyr craff
 
Annes

2008/9/15 Ann Corkett <[log in to unmask]>
Diolch, Annes.  Ond rhag i chwynnyn arall ledu, dymuna Bruce imi dynnu sylw at y ffaith mai "magu plu" y mae adar!
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Monday, September 15, 2008 10:02 AM
Subject: Re: breakthrough

Dew, go dda Ann - tro nesa bydd yna 'fully-fledged' i'w gyfieithu dwi'n mynd i ddefnyddio hwnna. 'Erbyn ei 7 oed roedd Mozart yn gyfansoddwr oedd wedi ennill ei blu.' Mi ro i wbod i chdi pan fydd mewn rhaglen cyngerdd i chdi gael mynd yno i'w weld!
 
Annes

2008/9/15 Ann Corkett <[log in to unmask]>
fully fledged, eh!
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Monday, September 15, 2008 9:53 AM
Subject: Re: breakthrough

Dyna ddangos i ti cystal prawfddarllenwr ydw i - nes i ddim hyd yn oed sylwi ar 'enowg' - di peidio'i fod o'n rhyw fath o bysgodyn, rhyw how berthyn i bennog? Typo hyfryd gan Muiris - un o'i gynigion oedd bod Vaughan Williams wedi 'ennill ei blu' - dwi'n lecio'r syniad yna'n fawr iawn!
 
Annes

2008/9/15 Berwyn Jones <[log in to unmask]>
Dwy' i ddim yn rhyw sicr iawn beth yw ystyr 'enowg' chwaith!
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Sunday, September 14, 2008 5:00 PM
Subject: Re: breakthrough

Berwyn bach, dwn i ddim be ydi'r union ystyr, a taswn i'n gofyn i'r awdur dwi'm yn meddwl y basa fo fawr callach chwaith. Mae'n un o'r geiria na fel engage ac involve sy'n golygu dim byd a phob peth. Mae'n golygu pob un o'r petha ti'n eu hawgrymu a dwi'n lecio'r cynigion (yn enwedig 'gwelodd ei yrfa dro ar fyd'), diolch. Mi ddefnyddia i un gwahanol bob tro y daw'r gair i'r fei! Yr unig adeg dwi'n meddwl ei fod yn golygu rhywbeth penodol ydi ym myd gwyddoniaeth ne rywbeth felly pan fasa torri trwodd fwya addas decini. Diolch
 
Annes

2008/9/14 Berwyn Jones <[log in to unmask]>
Beth yn union yw ystyr 'breakthrough' yn y cyd-destun sy 'da ti?
 
Ai 'dod i amlygrwydd/i sylw'r cyhoedd', 'cyrraedd cynulleidfa ehangach', 'dechrau o ddifrif ar ei yrfa', dod yn enowg/ennill enwogrwydd', 'torri trwodd', 'gwelodd ei yrfa dro ar fyd', 'daeth haul ar fryn'?
 
Neu rywbeth arall?
 
Berwyn
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">annes gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Saturday, September 13, 2008 11:14 PM
Subject: breakthrough

Ga i fynd yn ol at yr anghenfil yma? Dyma daro mhen i heno ella basa tro arwyddocaol yn un ffordd o'i gyfleu. Ac wedyn dyma feddwl wedyn ella basa tro ar ei ben ei hun yn ddigon? Er enghraifft 'daeth tro Vaughan Williams pan...' Ne  os oes yna rywbeth neilltuol wedi'i ddiffinio, 'daeth y tro yng ngyrfa V W pan...' Be dach chi'n feddwl? Ydi hynna'n cyfleu breakthrough ta ydi o'n rhy amwys? Ne ella mai'i amwyster ydi'i fantais gan fod tro yn Gymraeg yn golygu cymaint o betha? Tro lwcus, tro yng nghynffon, tro am wlad, tro i neud rwbath etc etc etc. Mwya dwi'n meddwl amdano fo mwya dwi'n ei lecio fo. E.e. 'Ym 1898 y daeth ei dro pan aeth Amrywiadau Enigma a hi yn ysgubol' (Elgar rwan) - may hynna i mi yn swnio'n eitha fel breakthrough. Diolch ymlaen llaw am eich sylwada.
 
Annes

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date: 14/09/2008 07:16