Print

Print


Berwyn bach, dwn i ddim be ydi'r union ystyr, a taswn i'n gofyn i'r awdur
dwi'm yn meddwl y basa fo fawr callach chwaith. Mae'n un o'r geiria na fel
engage ac involve sy'n golygu dim byd a phob peth. Mae'n golygu pob un o'r
petha ti'n eu hawgrymu a dwi'n lecio'r cynigion (yn enwedig 'gwelodd ei yrfa
dro ar fyd'), diolch. Mi ddefnyddia i un gwahanol bob tro y daw'r gair i'r
fei! Yr unig adeg dwi'n meddwl ei fod yn golygu rhywbeth penodol ydi ym myd
gwyddoniaeth ne rywbeth felly pan fasa torri trwodd fwya addas decini.
Diolch

Annes

2008/9/14 Berwyn Jones <[log in to unmask]>

>  Beth yn union yw ystyr 'breakthrough' yn y cyd-destun sy 'da ti?
>
> Ai 'dod i amlygrwydd/i sylw'r cyhoedd', 'cyrraedd cynulleidfa ehangach',
> 'dechrau o ddifrif ar ei yrfa', dod yn enowg/ennill enwogrwydd', 'torri
> trwodd', 'gwelodd ei yrfa dro ar fyd', 'daeth haul ar fryn'?
>
> Neu rywbeth arall?
>
> Berwyn
>
>   ----- Original Message -----
> *From:* annes gruffydd <[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> *Sent:* Saturday, September 13, 2008 11:14 PM
> *Subject:* breakthrough
>
>  Ga i fynd yn ol at yr anghenfil yma? Dyma daro mhen i heno ella basa tro
> arwyddocaol yn un ffordd o'i gyfleu. Ac wedyn dyma feddwl wedyn ella basa
> tro ar ei ben ei hun yn ddigon? Er enghraifft 'daeth tro Vaughan Williams
> pan...' Ne  os oes yna rywbeth neilltuol wedi'i ddiffinio, 'daeth y tro yng
> ngyrfa V W pan...' Be dach chi'n feddwl? Ydi hynna'n cyfleu breakthrough ta
> ydi o'n rhy amwys? Ne ella mai'i amwyster ydi'i fantais gan fod tro yn
> Gymraeg yn golygu cymaint o betha? Tro lwcus, tro yng nghynffon, tro am
> wlad, tro i neud rwbath etc etc etc. Mwya dwi'n meddwl amdano fo mwya dwi'n
> ei lecio fo. E.e. 'Ym 1898 y daeth ei dro pan aeth Amrywiadau Enigma a hi yn
> ysgubol' (Elgar rwan) - may hynna i mi yn swnio'n eitha fel breakthrough.
> Diolch ymlaen llaw am eich sylwada.
>
> Annes
>
> ------------------------------
>
>
> No virus found in this incoming message.
> Checked by AVG - http://www.avg.com
> Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.21/1671 - Release Date: 14/09/2008
> 07:16
>
>