Print

Print


Ga i fynd yn ol at yr anghenfil yma? Dyma daro mhen i heno ella basa tro
arwyddocaol yn un ffordd o'i gyfleu. Ac wedyn dyma feddwl wedyn ella basa
tro ar ei ben ei hun yn ddigon? Er enghraifft 'daeth tro Vaughan Williams
pan...' Ne  os oes yna rywbeth neilltuol wedi'i ddiffinio, 'daeth y tro yng
ngyrfa V W pan...' Be dach chi'n feddwl? Ydi hynna'n cyfleu breakthrough ta
ydi o'n rhy amwys? Ne ella mai'i amwyster ydi'i fantais gan fod tro yn
Gymraeg yn golygu cymaint o betha? Tro lwcus, tro yng nghynffon, tro am
wlad, tro i neud rwbath etc etc etc. Mwya dwi'n meddwl amdano fo mwya dwi'n
ei lecio fo. E.e. 'Ym 1898 y daeth ei dro pan aeth Amrywiadau Enigma a hi yn
ysgubol' (Elgar rwan) - may hynna i mi yn swnio'n eitha fel breakthrough.
Diolch ymlaen llaw am eich sylwada.

Annes