Sent: Friday, August 01, 2008 3:21
PM
Subject: Re: genetic engineering
Diolch Dafydd. Rydach chi'n awgrymu felly bod yr 'engineering' yn fwy o
beth na 'modification'. (Efallai fod 'manipulation' hefyd yn awgrymu
proses fwy bwriadol na 'modification'?)
Mae gen i ddau bwynt/cwestiwn ieithyddol:
1. Pan fo angen berf, ydy 'peiriannu' yn dderbyniol? Ai dim ond fi
sy' ddim yn hoffi'r gair? Os yw pawb o'i blaid, mi dawaf â sôn! Oni
allen ni ddefnyddio 'trin yn enetig' i gyfleu'r un peth yn fwy naturiol
Gymreig?
2. Mae 'peirianneg' yn enw benywaidd fel rheol, felly mae TermCymru yn
gywir gyda 'peirianneg enetig'. Mae GPC yn nodi 'peirianneg enetig' o
dan 'peirianneg' ymhlith yr enghreifftiau.
Diolch eto
Glenys
>
A oes gwyddonwyr yna'n rhywle - neu ydyn nhw i gyd yn gosod eu stondinau ar
faes y Brifwyl?
> 'Peirianneg enetig' meddai TermCymru.
>
'Peirianneg genetig' meddai Cysgeir.
> 'Peirianneg genynnau' sy'n
gywir meddai Tim, yn yr archifau.
> Ond yn y testun dw i'n ei olygu,
mae angen berf, ac mae'r cyfieithydd wedi defnyddio 'peiriannu'n enetig'
('moch wedi cael eu peiriannu'n enetig' ac ati).
> Y cwestiwn sy gen
i ydy - Oes 'na reswm gwyddonol pam na ellir defnyddio 'addasu'n enetig'
?
Mae peirianneg yn well ar gyfer y maes ac ar gyfer disgrifiad
swydd
ond mi fyddai'n bosib defnyddio 'addasiad/addasu genetig' ar gyfer
disgrifiad
o'r broses, yn enwedig ar gyfer cynulleidfa
Ond
'peirianneg genetig' yw'r dewis mwya synhwyrol wrth son am y
maes.
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.5.10/1585 - Release Date: 01/08/2008 06:39