Print

Print


Diolch Dafydd. Rydach chi'n awgrymu felly bod yr 'engineering' yn fwy o beth na 'modification'.  (Efallai fod 'manipulation' hefyd yn awgrymu proses fwy bwriadol na 'modification'?)
 
Mae gen i ddau bwynt/cwestiwn ieithyddol:
1. Pan fo angen berf, ydy 'peiriannu' yn dderbyniol? Ai dim ond fi sy' ddim yn hoffi'r gair? Os yw pawb o'i blaid, mi dawaf â sôn!  Oni allen ni ddefnyddio 'trin yn enetig' i gyfleu'r un peth yn fwy naturiol Gymreig?
2. Mae 'peirianneg' yn enw benywaidd fel rheol, felly mae TermCymru yn gywir gyda 'peirianneg enetig'.  Mae GPC yn nodi 'peirianneg enetig' o dan 'peirianneg' ymhlith yr enghreifftiau.
 
Diolch eto
Glenys
 


Dafydd Tomos <[log in to unmask]> wrote:
> A oes gwyddonwyr yna'n rhywle - neu ydyn nhw i gyd yn gosod eu stondinau ar faes y Brifwyl?
> 'Peirianneg enetig' meddai TermCymru.
> 'Peirianneg genetig' meddai Cysgeir.
> 'Peirianneg genynnau' sy'n gywir meddai Tim, yn yr archifau.
> Ond yn y testun dw i'n ei olygu, mae angen berf, ac mae'r cyfieithydd wedi defnyddio 'peiriannu'n enetig' ('moch wedi cael eu peiriannu'n enetig' ac ati).
> Y cwestiwn sy gen i ydy - Oes 'na reswm gwyddonol pam na ellir defnyddio 'addasu'n enetig' ?

Mae peirianneg yn well ar gyfer y maes ac ar gyfer disgrifiad swydd
ond mi fyddai'n bosib defnyddio 'addasiad/addasu genetig' ar gyfer disgrifiad
o'r broses, yn enwedig ar gyfer cynulleidfa

Ond 'peirianneg genetig' yw'r dewis mwya synhwyrol wrth son am y maes.