Rhag ofn i neb feddwl mod i’n mynnu mai cyfieithwyr proffesiynol a ddylai baratoi unrhyw destun Cymraeg sydd i’w gyhoeddi, rydw i wrth fy modd bob amser pan fydda i’n clywed bod rhywun nad yw’n gyfieithydd wrth ei swydd, ond sy’n cael ei roi mewn sefyllfa o orfod paratoi rhywbeth yn Gymraeg i’w gyhoeddi, yn gofyn i rywun arall gael golwg ei gynnig ef neu hi cyn anfon gwaith allan. Nid cwyno er mwyn cwyno yw’r ateb, ond ceisio cael cyflogwyr i ddeall bod gofyn i ‘rywun yn y swyddfa sy’n gallu siarad Cymraeg’ yn wych, ond cynnig hefyd y dylai ystyried gwella sgiliau (??) yr aelod staff hwnnw drwy ddarparu ychydig wersi gloywi iaith, neu o leiaf ddarparu CySill etc ar ei gyfrifiaduron. Dim ond mater o ddatblygiad personol yw hynny, wedi’r cwbwl. Mary _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gwenllian Mair Williams Sent: 29 August 2008 11:25 To: [log in to unmask] Subject: Re: Eryri Gwyrdd Mae'n rhaid i mi fod yn onest a dweud nad ydw i'n siwr fod cwyno am y cyfieithydd/awdur Cymraeg yn deg iawn yma. Siawns na problem olygyddol ydi rhywbeth fel y wefan yma. Efallai bod rhywun wedi gofyn i'r 'siaradwr Cymraeg yn y swyddfa' ysgrifennu rhywbeth, ond pam na chafodd o ei wirio cyn ei osod ar y wefan? Hyd y gwela i, mae hon yn broblem gynyddol, nad yw testunau (Cymraeg na Saesneg) yn cael eu prawfddarllen cyn eu gosod, ac o ganlyniad bod anghysondebau mawr o ran arddull a thermau. Fel y dywedodd Sian, mae angen bod yn ofalus. Yn fy mhrofiad i, mae'r 'siaradwr Cymraeg yn y swyddfa' yn gwneud eu gorau dan bwysau mawr. Mae nhw'n teimlo na allan nhw wrthod gwneud y gwaith, ond mae nhw hefyd yn ansicr iawn am safon eu hiaith. Mae gen i un ffrind sy'n cael ei rhoi yn y sefyllfa yma'n rheolaidd gan y Cyngor lleol, ac sy'n anfon pethau i mi ddarllen drwyddyn nhw cyn iddi eu dychwelyd. Ma'n rhaid i mi ddweud bod ei hiaith a'i gramadeg wedi gwella'n sylweddol erbyn hyn, gan mod i'n trio anfon sylwadau efo unrhyw newidiadau, er mwyn iddi wybod ble roedd hi'n mynd o'i le. Anogaeth yn hytrach na beirniadaeth bob tro! Gwenllian --- On Thu, 28/8/08, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote: From: Ann Corkett <[log in to unmask]> Subject: Re: Eryri Gwyrdd To: [log in to unmask] Date: Thursday, 28 August, 2008, 10:59 PM Crwydrais ymhellach ar y safle wedi imi ysgrifennu; mae rhai darnau'n amlwg wedi'u cyfieithu'n dda, ond ambell deitl neu ddarn byr yn wallus, fel petai nad oedd gan bwy bynnag rhoddodd y cyfan at ei gilydd yr un gallu, nag yn sylweddoli chwaith bod angen help arno. Fel 'dych chi'n dweud, Sian, mae angen dull gwahanol wrth ddelio a'r bobl yma - canmol yn gyntaf, a llithro rhyw awgrym bach i mewn hefyd, efallai - ac wn i ddim pryd y caf amser i lunio rhywbeth, ond mi geisia i! Ann ----- Original Message ----- From: Siân Roberts <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, August 28, 2008 10:19 PM Subject: Re: Eryri Gwyrdd Mae angen bod yn ofalus ac yn sensitif iawn mewn achosion fel hyn (fel rwy'n siwr y byddwch chi, Ann). Does arnon ni ddim eisiau i bobl feddwl mai dim ond cyfieithwyr proffesiynol sy'n gallu/cael sgrifennu Cymraeg. Mae'r cyfieithiad hwn yn amlwg wedi'i wneud gan rywun deallus a gofalus - hyd yn oed os nad yw'r Gymraeg yn berffaith. Mae "swyno" am "dazzle" yn grêt, er enghraifft. Mae'r llinell rhwng annog pobl i fentro sgrifennu Cymraeg a chaniatáu iaith sathredig yn gallu bod yn un denau iawn. Dw i'n cytuno â chi ar fater yr Eryri Gwyrdd - mae'r berthynas rhwng y ddau air mewn teitl fel hyn yn wahanol i'r slogan Urdd Gwyrdd yn fy meddwl i. Hwyl Siân On 28 Aug 2008, at 19:19, Ann Corkett wrote: 'Dw i ddim yn siwr fy mod i'n trafod yr un pwynt a Wil, ond 'rwyf newydd edrych ar wefan Eryri Gwyrdd. Byddwn i'n dweud na fu cyfieithydd proffesiynol yn ymwneud a'r gwaith o gwbl, gan y defnyddir y pennawd "Eryri Gwyrdd" *er gwaethaf* y ffaith bod pennawd arall ar yr un tudalen am "Gwobrau Twristiaeth Eryri Werdd"! Sylwaf hefyd ar y cyfeiriadau at "twristiaeth cynaladwy". Anwybodaeth yw hyn, nid penderfyniad ymwybodol - anwybodaeth rhywun nad yw'n darllen "Golwg" chwaith! Ceisiaf ysgrifennu llythyr caredig atynt cyn i Bruce weld y wefan a sgwennu llythyr cas. Ann ----- Original Message ----- From: "Inc Cyfieithu Translations" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, August 28, 2008 6:42 PM Subject: Re: Eryri Gwyrdd Mi wn i fod hyn wedi cael ei drafod hyd syrffed ond fy marn i yw na dylid talu gormod o sylw i eiriau gwirion yn y testun Saesneg oni bai eu bod nhw yn rhai technegol. Mi fyddwn ni'n gwneud ein gorau i ddehongli'r testun Saesneg a'i gyflwyno mewn Cymraeg dealladwy. Yn amlach na pheidio mae hynny'n golygu dod i'r casgliad bod yr awdur yn trio dangos ei hun ac yn defnyddio rhai geiriau nad ydy o'n gwybod beth yw eu hystyr. Cyn belled a bo byrdwn y ddogfen Saesneg yn cael ei gyflwyno'n ddealladwy, ond nid efallai air am air, yn y Gymraeg mae'r cyfieithiad yn dderbyniol. Ond, ac mae o'n ond mawr, mae testunau technegol yn wahanol. Mae'n rhaid cyfieithu pob un term yn y rhain. Wil Ann Corkett wrote: Efallai y bydd Job 39:25 yn addas. Ann ----- Original Message ----- From: "Jane Owen" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, August 28, 2008 5:08 PM Subject: Fw: Eryri Gwyrdd gweler www.eryri-gwyrdd.co.uk <http://www.eryri-gwyrdd.co.uk/> llyfryn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 2008 - 09 tud 31 "Eryri Gwyrdd" Jane Jones Owen Cyfieithydd y Sir / Corporate Translator 01824 712524 [log in to unmask] [log in to unmask] Mae'r wybodaeth a gynhwysir yn yr e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag o wedi eu bwriadu yn unig ar gyfer pwy bynnag y cyfeirir ef ato neu atynt. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, hysbyswch yr anfonwr ar unwaith os gwelwch yn dda. Mae cynnwys yr e-bost yn cynrychioli barn yr unigolyn(ion) a enwir uchod ac nid yw o angenrheidrwydd yn cynrychioli barn Cyngor Sir Ddinbych. Serch hynny, fel Corff Cyhoeddus, efallai y bydd angen i Gyngor Sir Ddinbych ddatgelu'r e-bost hwn [neu unrhyw ymateb iddo] dan ddarpariaethau deddfwriaethol. The information contained in this e-mail message and any files transmitted with it is intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error please notify the sender immediately. The contents of this e-mail represents the views of the individual(s) named above and do not necessarily represent the views of Denbighshire County Council. However, as a Public Body, Denbighshire County Council may be required to disclose this e-mail [or any response to it] under legislative provisions. No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com <http://www.avg.com/> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.10/1638 - Release Date: 27/08/2008 19:06 No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com <http://www.avg.com/> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.10/1638 - Release Date: 27/08/2008 19:06 No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com <http://www.avg.com/> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.10/1638 - Release Date: 27/08/2008 19:06 No virus found in this incoming message. Checked by AVG - http://www.avg.com Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.10/1638 - Release Date: 27/08/2008 19:06