Cytuno Sian - mi fydda i weithiau yn dweud wrth gwsmer mod i wedi gweld 'ambell wall teipio' yn eu gwaith nhw, sydd efallai yn ffordd fach garedig o dynnu sylw at gamgymeriadau!!Eirian----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Siān RobertsTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Saturday, August 30, 2008 11:57 AMSubject: Re: Iaith y Daily PostTrafodaeth am y Daily Post Cymraeg yma:I ddilyn pwynt Ann - beth rydych chi'n ei wneud pan fydd camgymeriadau mewn dogfennau Saesneg rydych yn eu cael i'w cyfieithu?Ydych chi'n rhoi gwybod i'r awdur? Shwt maen nhw'n ymateb? Mae'n siwr ei fod yn dibynnu i raddau ar eich perthynas ā'r awdur - ond fel rheol, maen nhw'n falch o gael gwybod, dwi'n meddwl!Siān
On 30 Aug 2008, at 11:50, Ann Corkett wrote:
Ymateb i neges Osian Rhys, dan "sick":Diolch am dynnu ein sylw at hyn, ond mae'n f'atgoffa i o gwestiwn arall a gododd dan "Eryri Gwyrdd".Os yw hi'n embaras gwybod sut i feirniadu Cymraeg cyhoeddus pobl heb fod yn negyddol, a oes modd mynd ati i feirniadu Saesneg gohebyddion mewn modd adeiladol??Sut mae dweud wrth un o ohebyddion y Daily Post, er enghraifft, bod tri gwall gramadeg mewn un erthygl ganddo? Ai ato fo yn breifat, ynteu at y golygydd, y dylai rhywun ysgrifennu - a pha mor aml?Ann