Wir, dyw "sgiliau" ddim yn fy mhoeni i o gwbl. Dw i'n deall mai benthyciad yw e, ond mae'n hen fenthyciad - Wiliam Llŷn yn yr 16g - "Da yw ei sgil, nid oes gwad" Mae'r acen dipyn bach yn ddiflas yn yr unigol ond dyw'r unigol ddim yn digwydd yn aml! Beth sy'n gwneud "sgiliau" yn fwy tebyg i hen neidr yn chwydu nag unrhyw air arall sy'n cynnwys y llythyren "s"? Sut mae hen neidr yn chwydu yn swnio'n wahanol i neidr ifanc yn chwydu? Dw i ddim yn licio "sgilgar" chwaith! Hwyl Siân On 24 Aug 2008, at 10:57, Meinir Thomas wrote: > Pan ro'n i'n gweithio 'da'r cyngor yn Rhondda, roedd y bos yn > mynnu'n bod ni'n defnyddio "medrau". Rwy'n parhau i ddefnyddio > "medrau" yn fy swydd bresennol. Os ydyn ni'n defnyddio hysbyseb > sydd wedi'i recordio'n barod gan gwmni (fel arfer rhai sy'n cael eu > darlledu ar sawl gorsaf radio dros Gymru), y gair "sgiliau" sy'n > cael ei ddefnyddio bob tro. Rwy'n gwingo bob tro rwy'n eu clywed! > > Meinir > > annes gruffydd <[log in to unmask]> wrote: > Yn ateb i bwynt Mary sydd heb eto gyrraedd yr edefyn yma - fedra i > ddim defnyddio'r gair medrau pan fo cwmni'n ei alw'i hun yn Sgiliau > Creadigol a Diwylliannol yn na fedra? felly rhaid i mi ddefnyddio'r > erthyllair sgiliau. Pwy bynnag fathodd y gair yn y lle cynta sydd > ar fai ....... Pwy??????? > Annes > > 2008/8/23 Siân Roberts <[log in to unmask]> > Mae 'na bethau gwaeth! > Mae Plaid Cymru wedi dechrau galw'u cefnogwyr gweithgar yn > "actifyddion". O! Na! > > > On 22 Aug 2008, at 23:37, annes gruffydd wrote: > > Sori, jyst isio bwrw mol. Pwy isio bathu'r hen air hyll yna o > gwbwl. Be oedd yn bod ar 'medrau'? Mae sgiliau yn swnio fel rhyw > hen neidar yn chwydu. Ond go daria, dwi'n gorfod ei ddefnyddio > drwy'r amser am ei fod wedi ennilli blwy a chwmniau'n eu galw'u > hunain yn Sgiliau rwbath neu'i gilydd. Sut aflwydd y digwyddodd hyn > i gyd? > > Annes > > > > > MeinirAnnThomas > Send instant messages to your online friends http:// > uk.messenger.yahoo.com >