Print

Print


Pan ro'n i'n gweithio 'da'r cyngor yn Rhondda, roedd y bos yn mynnu'n bod ni'n defnyddio "medrau". Rwy'n parhau i ddefnyddio "medrau" yn fy swydd bresennol. Os ydyn ni'n defnyddio hysbyseb sydd wedi'i recordio'n barod gan gwmni (fel arfer rhai sy'n cael eu darlledu ar sawl gorsaf radio dros Gymru), y gair "sgiliau" sy'n cael ei ddefnyddio bob tro. Rwy'n gwingo bob tro rwy'n eu clywed!
   
  Meinir

annes gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
      Yn ateb i bwynt Mary sydd heb eto gyrraedd yr edefyn yma - fedra i ddim defnyddio'r gair medrau pan fo cwmni'n ei alw'i hun yn Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn na fedra? felly rhaid i mi ddefnyddio'r erthyllair sgiliau. Pwy bynnag fathodd y gair yn y lle cynta sydd ar fai ....... Pwy??????? 
  Annes


  2008/8/23 Siān Roberts <[log in to unmask]>
  Mae 'na bethau gwaeth!
Mae Plaid Cymru wedi dechrau galw'u cefnogwyr gweithgar yn "actifyddion". O! Na!     
  

On 22 Aug 2008, at 23:37, annes gruffydd wrote:

  Sori, jyst isio bwrw mol. Pwy isio bathu'r hen air hyll yna o gwbwl. Be oedd yn bod ar 'medrau'? Mae sgiliau yn swnio fel rhyw hen neidar yn chwydu. Ond go daria, dwi'n gorfod ei ddefnyddio drwy'r amser am ei fod wedi ennilli blwy a chwmniau'n eu galw'u hunain yn Sgiliau rwbath neu'i gilydd. Sut aflwydd y digwyddodd hyn i gyd?

Annes








MeinirAnnThomas

 Send instant messages to your online friends http://uk.messenger.yahoo.com