Os yw pobol bwysig, ddylanwadol yn penderfynu
gwrthod yw hyn sy’n arferol i’r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg naturiol, a
phennu, er enghraifft, nad oes angen gwahaniaethau mwyach rhwng ‘ble’ a ‘lle’,
pam na wnawn ni fel cyfieithwyr hefyd wrthod eu syniadau a’u hargymhellion nhw?
Gadawn iddyn nhw ddefnyddio’u sgil a’u hopsiwn a’u hystod, ond parhau i fod yn
hen-ffasiwn, yn buryddion ac yn y blaen. Mi wn mai gofyn i grefftwr fyddwn i pe
bae gen i gwestiwn ynglŷn â’r gwifrau trydan yn y tŷ, neu’r gwaith plymio, neu
dwll yn y to, nid i aelod o bwyllgor neu rywun mewn swyddfa! Sticiwch at eich
synnwyr cyffredin a’ch gwybodaeth o’r iaith, ddweda i – nes bydd y cwsmer yn
mynnu i chi gydymffurfio! Wedyn rhowch y gorau i’ch egwyddorion - am y tro!
Mary
From: Discussion of
Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of annes gruffydd
Sent: 22 August 2008 23:37
To:
[log in to unmask]
Subject: sgiliau
Sori, jyst isio bwrw mol. Pwy isio bathu'r hen air hyll yna o gwbwl. Be
oedd yn bod ar 'medrau'? Mae sgiliau yn swnio fel rhyw hen neidar yn chwydu.
Ond go daria, dwi'n gorfod ei ddefnyddio drwy'r amser am ei fod wedi ennilli
blwy a chwmniau'n eu galw'u hunain yn Sgiliau rwbath neu'i gilydd. Sut aflwydd
y digwyddodd hyn i gyd?
Annes