Print

Print


Diolch, Geraint.  Mae Bruce wrthi'n teipio cywiriadau ar gyfer GyrA ar hyn o bryd, felly mi soniaf wrtho. Diolch hefyd am anfon nodyn ynghylch gwallau atom o dro i dro.  Os bydd unrhyw un arall ag unrhyw wallau i'w nodi, byddwn i'n ddiolchgar iawn am gael clywed.
 
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Geraint Lovgreen
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, August 11, 2008 11:22 AM
Subject: Re: wanabe

dwi'n meddwl y gweli di mai "wannabe" efo un e ydi'r sillafiad mwya cyffredin o bell ffordd.
 
ac fel y dywedaist yn dy ebost gynharach, mae angen cysylltnod. isio-bod ac isio-bodau yn edrych yn iawn i mi.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, August 06, 2008 4:01 PM
Subject: Re: wanabe

'Dw i wedi gwneud yr un peth eto! Rhaid imi ddefnyddio fersiwn diweddarach o GyrA - ond sylwch bod sillafiad "wannabe" yn wahanol hefyd.
Dyma nodyn ar gyfer yr Atodiad:

1638    Add: wannabee n. F:  'dwisio bod(-au) m&f.

----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">annes gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, August 06, 2008 11:36 AM
Subject: Re: wanabe

Feddyliais i am bods hefyd. Dydi'r cyd-destun ddim yn anffurfiol damaid - traethawd ymchwil ar gyfer cylchgrawn Cymdeithas Seicolegol Prydain, ond wedi deud hynny dyfyniad ydi'r gair o wefannau Pro Ana (hybu anorecsia fel rhywbeth cadarnhaol) felly mewn ffordd mae o'n anffurfiol.
 
Annes

2008/8/6 Non <[log in to unmask]>
ym mha gyd-destun? anffurfiol falle alle ti roi lluosog 's'!
y 'dw i eisie bods'
yr 'eisie-bods'
y rhai sy'n trio bod?
 
(eilun) addolwyr?
ymgreinwyr?
deisyfwyr?
llyfwyr tin?
ymhonwyr?
desberados?
copiwyr?
 
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>annes gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>[log in to unmask]
Sent: Wednesday, August 06, 2008 10:51 AM
Subject: wanabe

Os oes na rywun yna heb fod mewn cae gwlyb, rwbath bachog ar gyfer y bobol llawn dyhead na? Fasa 'isio bod' yn cyfleu'r peth? Er na does dim modd gwneud hwnnw'n lluosog. Ne ella 'pobol isio bod'. Fasa'n braf tasa rhywun dyfeisgar yn medru cynnig rwbath gwell. Diolch
 
Annes

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com 
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.5.12/1594 - Release Date: 05/08/2008 21:49
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com 
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.0/1604 - Release Date: 11/08/2008 05:50