Print

Print


Diolch, Geraint.  Mae Bruce wrthi'n teipio cywiriadau ar gyfer GyrA ar hyn o bryd, felly mi soniaf wrtho. Diolch hefyd am anfon nodyn ynghylch gwallau atom o dro i dro.  Os bydd unrhyw un arall ag unrhyw wallau i'w nodi, byddwn i'n ddiolchgar iawn am gael clywed.

Ann
  ----- Original Message ----- 
  From: Geraint Lovgreen 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Monday, August 11, 2008 11:22 AM
  Subject: Re: wanabe


  dwi'n meddwl y gweli di mai "wannabe" efo un e ydi'r sillafiad mwya cyffredin o bell ffordd.

  ac fel y dywedaist yn dy ebost gynharach, mae angen cysylltnod. isio-bod ac isio-bodau yn edrych yn iawn i mi.
    ----- Original Message ----- 
    From: Ann Corkett 
    To: [log in to unmask] 
    Sent: Wednesday, August 06, 2008 4:01 PM
    Subject: Re: wanabe


    'Dw i wedi gwneud yr un peth eto! Rhaid imi ddefnyddio fersiwn diweddarach o GyrA - ond sylwch bod sillafiad "wannabe" yn wahanol hefyd.
    Dyma nodyn ar gyfer yr Atodiad:
    1638    Add: wannabee n. F:  'dwisio bod(-au) m&f.

      ----- Original Message ----- 
      From: annes gruffydd 
      To: [log in to unmask] 
      Sent: Wednesday, August 06, 2008 11:36 AM
      Subject: Re: wanabe


      Feddyliais i am bods hefyd. Dydi'r cyd-destun ddim yn anffurfiol damaid - traethawd ymchwil ar gyfer cylchgrawn Cymdeithas Seicolegol Prydain, ond wedi deud hynny dyfyniad ydi'r gair o wefannau Pro Ana (hybu anorecsia fel rhywbeth cadarnhaol) felly mewn ffordd mae o'n anffurfiol.

      Annes


      2008/8/6 Non <[log in to unmask]>

        ym mha gyd-destun? anffurfiol falle alle ti roi lluosog 's'!
        y 'dw i eisie bods'
        yr 'eisie-bods'
        y rhai sy'n trio bod?

        (eilun) addolwyr?
        ymgreinwyr?
        deisyfwyr?
        llyfwyr tin?
        ymhonwyr?
        desberados?
        copiwyr?


          ----- Original Message ----- 
          From: annes gruffydd 
          To: [log in to unmask] 
          Sent: Wednesday, August 06, 2008 10:51 AM
          Subject: wanabe


          Os oes na rywun yna heb fod mewn cae gwlyb, rwbath bachog ar gyfer y bobol llawn dyhead na? Fasa 'isio bod' yn cyfleu'r peth? Er na does dim modd gwneud hwnnw'n lluosog. Ne ella 'pobol isio bod'. Fasa'n braf tasa rhywun dyfeisgar yn medru cynnig rwbath gwell. Diolch

          Annes


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com 
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.5.12/1594 - Release Date: 05/08/2008 21:49
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com 
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.6.0/1604 - Release Date: 11/08/2008 05:50