Gobeithio nad ydi hyn yn tramgwyddo rheolau'r cylch, ond mae'n argyfwng, mae fy arbenigwr cyfrifiadurol (fy mab) ar wyliau, ac mae gen i ddogfennau ail-adroddus IAWN! Oes rhywun sy'n defnyddio Wordfast wedi cael y broblem hon o'r blaen? Mae'r eiconau jest wedi diflannu, a dwi wedi mynd i'r rhaglenni i geisio ail-osod, ond does dim yn fanno chwaith. Dwi heb wneud dim i beri iddyn nhw ddiflannu - help, rhywun? Diolch o galon ymlaen llaw. Meg