Print

Print


Tua 5 neu 6 blynedd yn ol roedd gan Radio 4 restr Deg Uchaf o betha ych-a-pych oedd wedi sleifio i mewn fwyfwy. Dwi'n difaru f'enaid na ddaru mi mo'u taro nhw ar bapur achos roedden nhw'r union betha oedd yn dan ar fy nghroen inna. Dyna pam na ddaru mi mo'u taro nhw ar bapur, gan feddwl y baswn i'n eu cofio nhw. Ysywaeth gwae fi ac achon dyw i ddim yn eu cofio nhw bellach. Eniwe. Mae'r gwahaniaeth rhwng may a might i mi yn bwysig iawn - efallai bod rhywun wedi llwyddo i rwystro'r tan ta efallai y buasai'n bosib i rywun fod wedi llwyddo i rwystro'r tan? Byd o wahaniaeth. Un arall ar y rhestr oedd y defnydd hyll o ahead of yn lle before sy'n rhemp ar Radio 4. Dwi'm yn cofio'r 8 arall ond os taran nhw mhen i mo roi wbod.. Gresyn na fasa pawb wedi cael yr addysg ramadegol fanwl gywir gafodd rhai ohonan ni, mae'n amlwg. Pleser bob amser sgwrsio a phedant arall!
 
Annes

2008/8/31 Ann Corkett <[log in to unmask]>
Mae'n dibynnu beth 'dych chi'n ei feddwl wrth "annealladwy". Gellid anwybyddu ambell "she was sat" yn lle "she was sitting", a gwallau sydd yn amlwg yn codi o newid y testun heb ei newid yn llwyr (newydd newid un o'r rheina yn nhestun y neges hon). Mae'r defnydd o "may" yn lle "might" neu "could" yn mynd yn fwyfwy cyffredin, ac er nad yw bob amser yn gwneud erthygl yn annealladwy, mae weithiau'n golygu ei hail-ddarllen er mwyn deall yn iawn a oedd rhywbeth wedi bod mewn perygl o ddigwydd, ynteu a yw o mewn perygl o ddigwydd o hyd.

Hyn oedd yn fy meddwl wrth ofyn, a ddylai rhywun ysgrifennu at yr awdur ynteu at y golygydd. 'Doeddwn i ddim yn meddwl am ysgrifennu at y golygydd i gwyno am un gwall gan un unigolyn, ond ysgrifennu'n gyffredinol, lle mae gwall fel hyn yn mynd yn rhemp trwy gydol y papur, a chan sawl gohebydd. Mae gan "The Times" er enghraifft, ganllawiau arddull ar gyfer ei ohebyddion, fel y mae gan y Cynulliad rywbeth tebyg.

Mae'n debyg fy mod in bedant - yn bedant pendant - er y ceisiaf beidio a bod yn drwynsur. Efallai'r unig ateb bydd imi gael fy ngholofn fy hun yn rhywle, lle gallaf gwyno wrth fodd fy nghalon.

O ran bod a dim byd gwell i'w wneud; mae'n ddrwg gen i fod mor "siaradus", ond gyda chymaint o bobl ar eu gwyliau, a chyn lleied yn cyfrannau at y cylch, mae'n hawdd anghofio nad ydym ond rhyw hanner dwsin o bobl yn cael sgwrs. 'Taswn i ddim mor brysur - fy mai i: cam-amserlennu gwaith - ac wrth y cyfrifiadur bore, dydd a nos - fuaswn i ddim yn ymuno yn y sgwrs mor aml fel ychydig o ddifyrrwch! "Sad"- trist, ynteu?

Yn ol at y gwaith,


Ann

.
----- Original Message ----- From: "Inc Cyfieithu Translations" <[log in to unmask]> Sent: Saturday, August 30, 2008 7:15 PM

Subject: Re: Iaith y Daily Post


Hmm.  Beirniadu nid cael eu beirniadu mae newyddiadurwyr. Oni bai bod y
tri gwall yn gwneud yr erthygl yn annealladwy fy nheimlad i yw y
byddai'r newyddiadurwr yn taflu unrhyw gwyn i'r bin ac yn gweld y
beirniad yn bedant trwynsur heb ddim gwell i'w wneud na phigo beiau mewn
gwaith pobl eraill. Gweler Pedants Corner yn Private Eye

Wil

Ann Corkett wrote:
Ymateb i neges Osian Rhys, dan "sick":
Diolch am dynnu ein sylw at hyn, ond mae'n f'atgoffa i o gwestiwn
arall a gododd dan "Eryri Gwyrdd".

Os yw hi'n embaras gwybod sut i feirniadu Cymraeg cyhoeddus pobl heb
fod yn negyddol, a oes modd mynd ati i feirniadu Saesneg gohebyddion
mewn modd adeiladol?? Sut mae dweud wrth un o ohebyddion y Daily Post,
er enghraifft, bod tri gwall gramadeg mewn un erthygl ganddo?  Ai ato
fo yn breifat, ynteu at y golygydd, y dylai rhywun ysgrifennu - a pha
mor aml?

Ann
------------------------------------------------------------------------


No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date: 29/08/2008 18:12




--------------------------------------------------------------------------------




No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.169 / Virus Database: 270.6.13/1642 - Release Date: 29/08/2008 18:12