Oes 'na rywun sy'n
defnyddio Wordfast wedi datrys y broblem yma?
Dywedwch eich bod
wedi gwneud darn o waith, wedi'i orffen ac yna fod y cwsmer yn dod yn ôl
gyda llwyth o newidiadau. Y ffordd hawsaf yw rhedeg y ffeil Saesneg efo'r
newidiadau ynddi, derbyn yr unedau 100% a newid y lleill. Ond, mae'r unedau 100%
hynny weithiau'n cynnwys fformat penodol e.e. geiriau unigol mewn print
trwm neu ffontiau lliw ac mae'r fformat hwnnw'n mynd ar goll ( a hefyd ^ ar 'w'
ac 'y') wrth adfer yr unedau o'r cof. Ai rhywbeth sydd o'i le ar y ffordd dw i
wedi gosod y system?
Carolyn