Print

Print


Oes 'na rywun sy'n defnyddio Wordfast wedi datrys y broblem yma?
 
Dywedwch eich bod wedi gwneud darn o waith, wedi'i orffen ac yna fod y
cwsmer yn dod yn ôl gyda llwyth o newidiadau. Y ffordd hawsaf yw rhedeg y
ffeil Saesneg efo'r newidiadau ynddi, derbyn yr unedau 100% a newid y
lleill. Ond, mae'r unedau 100% hynny weithiau'n cynnwys fformat penodol e.e.
geiriau unigol mewn print trwm neu ffontiau lliw ac mae'r fformat hwnnw'n
mynd ar goll ( a hefyd ^ ar 'w' ac 'y') wrth adfer yr unedau o'r cof. Ai
rhywbeth sydd o'i le ar y ffordd dw i wedi gosod y system? 
 
Carolyn