Dwi ddim wedi'u darllen nhw sti - mae gen i ddwy nofel gan Camilleri yn aros mewn ciw - ddim stic i ddarllen gyda' nos wedi bod yn rhythu ar eiria trwy'r dydd. Gobeithio cael rhywfaint o amsar rhydd mis nesa i lercian ar lan y pwll yn darllan!
 
Annes

2008/7/25 Saunders, Tim <[log in to unmask]>
Hoffwn i argymell y cyntaf ... tra'n addef fy mod weithiau yn arfer yr ail ... ac weithiau yn edrych ar y sawl sy'n siarad ...
 
Byddai cynghorion doeth yn derbyn croeso brwd fan hyn hefyd.
 
 
Gyda llaw, beth yw dy farn o gyfieithiadau Stephen Sartarelli o lyfrau Andrea Camilleri?

Tim

Tim Saunders
Cyfieithydd / Translator
Uned Cyfieithu Cyngor Rhondda Cynon Taf / Rhondda Cynon Taf Council Translation Unit
Ty Trevithick
Abercynon
Rhondda Cynon Taf CF45 4UQ
Ffôn +44-(0)-1443-744000

Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.



This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of Rhondda Cynon Taf Council.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of annes gruffydd
Sent: 24 July 2008 20:19
To: [log in to unmask]
Subject: cyfieithu ar y pryd wyneb yn wyneb

Ym mis Hydref dwi'n mynd i briodas yn Rhydychen efo nghariad sy'n Eidalwr nad ydi'n siarad agos i ddim Saesneg. Mewn sefyllfa sgwrs rhyngddo fo a rhywun arall, a minna'n cyfieithu ar y pryd, be ydi'r arferiad? Ai cadw'r pen yn niwtral rhwng y ddau berson fel eu bod nhw'n sbio ar ei gilydd ac yn cael yr argraff eu bod nhw'n sgwrs efo'i gilydd? Ta trosglwyddo'r cyfieithiad gan edrych ar y derbynnydd? Ydi hyn yn gneud sens? Faswn i rywsut yn tueddu at y cynta fel eu bod nhw'n medru teimlo eu bod nhw'n sgwrsio a'i gilydd ac na dydw i ddim yn bod a does arna i ddim isio'u llygad-dynnu nhw achos nid y fi sy'n siarad, ond faswn i'n gwerthfawrogi unrhyw gyngor. Be maen nhw'n neud mewn sefyllfaoedd o'r fath rhwng pobol bwysig? Dwi byth yn gwylio'r teledu felly dwn i ddim. Diolch ymlaen llaw
 
Annes