Pnawn da Buaswn i'n dilyn yr un patrwm â Meg - 'ym' ar gyfer unrhyw flwyddyn cyn 2000 ac 'yn' ar gyfer 2000 a phob blwyddyn wedyn. Lowri Lowri Roberts Trosi Tanat Translation Pengwern 16 Llwyn Road Croesoswallt / Oswestry Sir Amwythig / Shropshire SY11 1EL 01691 658859 07814 033759 www.trositanat.co.uk - www.tanattranslation.co.uk ----- Original Message ---- From: MEG ELIS <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, 16 July, 2008 10:12:27 AM Subject: Re: ym/yn Yn y ganrif ddiwethaf, roeddwn i wastad yn defnyddio "ym" gan fy mod i'n meddwl am y flwyddyn fel "mil... beth bynnag". Dyna dwi'n dal i wneud, ac yn sgwennu "yn" wrth gyfeirio at y ganrif hon. Anelu at gsyondeb wnawn i, pa bynnag ffurf a ddewisir. Meg Gwenllian Mair Williams <[log in to unmask]> wrote: Cwestiwn wedi codi wrth i mi wneud gwaith prawfddarllen. Beth fyddwch chi'n ei ddefnyddio cyn blwyddyn? ym 1985 neu yn 1985? Dwi'n gwybod mai 'ym 1985' sy'n gywir, ond mae'r ddau yn cael eu defnyddio erbyn hyn hyd y gwela i. mae'r ddwy enghraifft yn y gwaith dwi'n ei brawfddarllen ar y funud. Yn bersonol, 'yn un naw wyth pump' fydda i'n ei ddweud wrth ddarllen yn hytrach na 'ym mil naw..', felly mae defnyddio'r 'yn' yn swnio'n fwy naturiol i mi. Ddim yn bwynt ofnadwy o bwysig, ond mi fydda gin i ddiddordeb gwybod os oes na farn bendant un ffordd neu'r llall. Diolch, Gwenllian