Tybed fasa modd cael rhywbeth hollol wahanol i egluro'r gwahaniaeth? I fi, does dim gwahaniaeth rhwng bod yn ddi-waith a bod heb waith o ran ystyr y geiriau. Mae'r un peth yn wir i raddau helaeth am unemployed a workless. Bosib y dylen ni feddwl am rywbeth sy'n Cyfleu'r gwahaniaeth yn iawn. Ydw i'n iawn bod 'workless' yn golygu pawb sydd yn ddi-waith am ba reswsm bynnag, a bod 'unemployed' yn golygu'r bobl sy'n cael eu hystyried yn ddi-waith gan yr ILO? Carolyn -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen Anfonwyd/Sent: 15 Gorffennaf 2008 09:12 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: workless Dwi ddim yn meddwl y gallwn ni newid y ffaith mai 'di-waith' = 'unemployed' bellach, felly mae ateb Claire - 'di-waith' a 'heb waith' yn well yn fy marn i. ----- Original Message ----- From: "Carolyn Iorwerth" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, July 15, 2008 10:08 AM Subject: ATB: workless Da di'r cylch trafod! Wnes i erioed sylweddoli bod gwahaniaeth rhwng y ddau. Wedi bod yn defnyddo di-waith yn braf am 'workless' ers tro cyn imi gael fy ngoleuo Y broblem hyd y gwela'i yw na fyddai'r rhain fwyaf o bobl yn gwahaniaethu mewn sgwrs bob dydd - nac yn Saesneg nac yn Gymraeg - h.y. Unemployed a di-waith gaiff eu defnyddio i gyfeirio at yr holl bobl y sonnir amdanyn nhw yn y categorďau hyn. Chlywais i erioed neb ar strydoedd Caernarfon yn dweud eu bod yn econmaidd anweithgar er enghraifft (nac yn economically inactive o ran hynny), felly bosib mai dim ond yn y cyd-destun gwleidyddol/technegol y mae angen gwahaniaethu - sef pan gyfeirir at 'workless' ac 'unemployed' yn yr un darn? Wedyn, faswn i'n meddwl bod di-waith am workless a di-gyflog am unemployed yn gynnig da. -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws Anfonwyd/Sent: 15 Gorffennaf 2008 08:58 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: workless Mae Garmon yn hollol gywir. Gweler hefyd: http://www.regeneration-solutions.com/tackling-worklessness-and-unemployment .htm Ond tydi hyn ddim yn datrys y broblem o ran bathu term Cymraeg i wahaniaethu rhyngddynt. Yn y gorffennol, yn gam neu'n gymwys, dw i wedi defnyddio 'diweithdra' am unemployment ac 'anweithedd' am worklessness ond wn i ddim beth fyddai 'workless' wedyn! Rhian Canolfan Iechyd Cymru -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Garmon Davies Sent: 15 July 2008 09:52 To: [log in to unmask] Subject: ATB: workless Oes - dwi'n meddwl mai dyma'r gwahaniaeth: "Unemployed" - pobl nad ydynt yn gweithio ac sydd, yn ôl diffiniad yr ILO (1) yn dymuno cael gwaith (2) ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf a (3) wedi bod yn ceisio gwaith am 4 wythnos "workless" - pobl nad ydynt yn gweithio ac nad ydynt yn cwrdd ag un neu fwy o'r tri maen prawf uchod i gael eu cyfrif yn "unemployed" yn ôl diffiniad yr ILO. Mae "workless" felly'n cynnwys pobl ddi-waith ("unemployed") a phobl sy'n economaidd anweithgar. Garmon -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts Anfonwyd/Sent: 15 July 2008 09:29 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: workless Hyd y gwela i ar y we, "di-waith" sy'n cael ei ddefnyddio yn nogfennau'r Cynulliad am "workless". A oes gwahaniaeth rhwng "workless" ac "unemployed"? Diolch Siân