Y pethau sydd ar y rhestr ydi pethau rwyt ti wedi gofyn i'r rhaglen eu cywiro'n awtomatig ryw bryd. Ond mae gan y rhaglen restr arall mae'n eu "cywiro" heb ofyn - mae angen dad-dicio'r blwch bach i roi stop ar hynny. ----- Original Message ----- From: annes gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Saturday, July 12, 2008 12:39 AM Subject: Re: Cysill - rhybudd Yr unig beth ar fy rhestr i yn Cywiro Awtomatig oedd 'i'. LLe mae fy rhestr i?? Annes 2008/7/9 Catrin Beard <[log in to unmask]>: Yn ol beth dwi'n gallu ei ddeall o Cysill (heb fod yn arbenigwr cyfrifiadurol) mae'n cywiro rhai pethau'n awtomatig, ond mae modd golygu'r rhestr honno. Os agori di 'gwirio dogfen' a dewis opsiwn 'Golygu' ar y bar top, yna mynd i 'cywiro awtomatig', mae'r rhestr yno, ac fe fedri di ychwanegu neu ddileu fel mynni di. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 09 July 2008 11:28 To: [log in to unmask] Subject: Cysill - rhybudd Dim ond nodyn o rybudd. Dwi wedi arfer cymryd awgrymiadau Cysill efo pinsiad o halen weithiau, ond weithiau mae'n newid pethau heb hyd yn oed ofyn. Er enghraifft, mae'n troi "arloesedd" yn "arloesed" heb roi cyfle i mi gyd-fynd â hynny, felly petawn i wedi gwirio dogfen yn fanwl fy hun, wedyn ei roi trwy Cysill cyn ei anfon yn ôl, byddai fersiwn anghywir yn mynd allan yn y diwedd er gwaetha fy ngofal. Y wers felly ydi, mae angen gwirio gwaith yn fanwl AR OL iddo fynd trwy Cysill, gallwch ddod o hyd i wallau newydd sydd wedi'u gosod i mewn yn ddistaw bach gan y rhaglen. Geraint