-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 09 July 2008 11:28
To: [log in to unmask]
Subject: Cysill - rhybudd
Dim ond nodyn o rybudd.
Dwi wedi arfer cymryd awgrymiadau Cysill efo pinsiad o halen weithiau, ond weithiau mae'n newid pethau heb hyd yn oed ofyn.
Er enghraifft, mae'n troi "arloesedd" yn "arloesed" heb roi cyfle i mi gyd-fynd â hynny, felly petawn i wedi gwirio dogfen yn fanwl fy hun, wedyn ei roi trwy Cysill cyn ei anfon yn ôl, byddai fersiwn anghywir yn mynd allan yn y diwedd er gwaetha fy ngofal.
Y wers felly ydi, mae angen gwirio gwaith yn fanwl AR OL iddo fynd trwy Cysill, gallwch ddod o hyd i wallau newydd sydd wedi'u gosod i mewn yn ddistaw bach gan y rhaglen.
Geraint