Yr unig beth ar fy rhestr i yn Cywiro Awtomatig oedd 'i'. LLe mae fy rhestr i?? Annes 2008/7/9 Catrin Beard <[log in to unmask]>: > Yn ol beth dwi'n gallu ei ddeall o Cysill (heb fod yn arbenigwr > cyfrifiadurol) mae'n cywiro rhai pethau'n awtomatig, ond mae modd golygu'r > rhestr honno. > Os agori di 'gwirio dogfen' a dewis opsiwn 'Golygu' ar y bar top, yna mynd > i 'cywiro awtomatig', mae'r rhestr yno, ac fe fedri di ychwanegu neu ddileu > fel mynni di. > > -----Original Message----- > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]]*On Behalf Of *Geraint > Lovgreen > *Sent:* 09 July 2008 11:28 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Cysill - rhybudd > > Dim ond nodyn o rybudd. > > Dwi wedi arfer cymryd awgrymiadau Cysill efo pinsiad o halen weithiau, ond > weithiau mae'n newid pethau heb hyd yn oed ofyn. > > Er enghraifft, mae'n troi "arloesedd" yn "arloesed" heb roi cyfle i mi > gyd-fynd â hynny, felly petawn i wedi gwirio dogfen yn fanwl fy hun, wedyn > ei roi trwy Cysill cyn ei anfon yn ôl, byddai fersiwn anghywir yn mynd allan > yn y diwedd er gwaetha fy ngofal. > > Y wers felly ydi, mae angen gwirio gwaith yn fanwl AR OL iddo fynd trwy > Cysill, gallwch ddod o hyd i wallau newydd sydd wedi'u gosod i mewn yn > ddistaw bach gan y rhaglen. > > Geraint > >