Mae "meddwl ddwywaith" yn awgrymu "ail-feddwl" i mi, Claire, sef nid yr union ystyr a olygir yma, laswn i feddwl. Wedi dweud hynny, does gen innau ddim ysbrydoliaeth, dim ond rhywbeth fel "meddwl yn galed". Meg Claire Richards <[log in to unmask]> wrote: Tarddiad yr ymadrodd yw dyfyniad enwog Dr Johnson “"Depend upon it, sir, when a man knows he is to be hanged in a fortnight, it concentrates his mind wonderfully." Y cyd-destun yw awdurdodau lleol “..using the threat [of it] to concentrate minds in times of financial restraint.” Alla i ddim meddwl am ddim byd bachog i gyfieithu hyn – dwi’n beio’r annwyd sydd gen i. Y gorau sydd gen i hyd yma yw “i beri i bobl feddwl ddwywaith.” Byddwn i’n ddiolchgar am unrhyw awgrymiadau. Claire