Ond mae'n wallgo! Enghraifft berffaith o rywun yn glynu'n slafaidd at y Saesneg heb ystyried o gwbl beth mae'r geiriau'n ei olygu. Pethau fel hyn sy'n cael enw drwg i gyfieithu.
 
Dwi'n meddwl y glyna i at "Saesneg i ddysgwyr" - dealladwy a syml (a chywir, sydd wastad yn help!). Treuliais beth amser yn Gwglo i ganfod beth oedd ESOL beth bynnag!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Dean Baker
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, July 10, 2008 9:03 AM
Subject: Re: ESOL

Derbyn y dadleuon ond dyma'r term sydd wedi cydio erbyn hyn ym maes addysg, a'r fersiwn Gymraeg SSIE yw'r acronym y mae Estyn (neu eu cyfieithwyr) yn ei ddefnyddio wrth arolygu addysg gymunedol yng Nghymru
 
Dean
 
Dean Baker
Rheolwr Datblygu Cwricwlwm (Dwyieithrwydd)
Curriculum Development Manager (Bilingualism)
01554 748115

 
P   Meddyliwch am yr amgylchedd - a oes wir angen argraffu'r ebost hwn?
Please consider the environment - do you really need to print this email?


>>> Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> 09/07/08 20:40 >>>
Mae'r term ESOL (sef English for speakers of other languages) wedi'i gyfieithu yn Term Cymru (ond dim ond ar statws 5) fel 'Saesneg ar gyfer Siaradwyr ieithoedd eraill'.
 
Ga'i awgrymu bod hwn yn derm hurt, achos, er enghraifft, mae pawb sy'n darllen hwn yn siaradwyr iaith arall, sef Cymraeg. Ond go brin y byddai arnom angen darpariaeth ESOL. Felly rhois gynnig ar ddweud 'Saesneg fel ail iaith', ond mae'r un peth yn wir i raddau llai am yr ymadrodd hwnnw.
 
Dwi wedi Gwglo ac wedi gweld enghraifft o 'Saesneg i dramorwyr' - ond efallai nad yw bathwyr y term gwreiddiol eisiau eu galw'n 'foreigners' - a hwythau'n aml yn ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches, byddai hynny efallai'n ymfflamychol.
 
Felly - be dwi wedi'i roi heno wrth gyfieithu hyn (yn y Cofnod) ydi 'Saesneg i'r di-Saesneg' - oes gan bobl farn am hyn o gwbl? Neu awgrymiadau eraill?
 
Geraint