Beth am y term TEFL, sef Saesneg fel Iaith Dramor? Oes rheswm dros
beidio ei ddefnyddio yma? Neu efallai fod edrych ar dystysgrif CELTA yn
help hefyd, sef Certificate in English Language Teaching to Adults (gan
gymryd fod pawb yn y dosbarth yn oedolion).
Y prif beth i athrawon ESOL/TEFL yw'r angen i allu dysgu Saesneg
heb ddefnyddio iaith gyntaf y dysgwyr, yn aml am fod dosbarth yn
cynnwys disgyblion o fwy nag un wlad/mamiaith, neu hefyd am nad yw'r
athro'n siarad iaith y disgybl. Pwynt arall yn erbyn galw'r myfyrwyr yn
dramorwyr yw y fod dosbarthiadau ESOL yn cael eu cynnal yn mhob cwr o'r
byd, ac felly'r iaith sy'n dramor, nid y dysgwyr.
Elin
Ie, pam lai? Mae'n gwneud y tro i mi. Diolch yn fawr!Ond mi ddalia'i ngafael ar y gwaith tan ganol bore rhag ofn y bydd gan rywun ryw gyfraniad arall i'w wneud ar y pwnc!----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">CarolynTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Wednesday, July 09, 2008 9:33 PMSubject: ATB: ESOLBe am Saesneg i ddysgwyr?
Carolyn
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 20:22
Pan wnes i lefel "O" yn y Gymraeg, 'roedd 'na ddewis, cyhyd ag y gallaf gofio'r enwau, o wneud "Cymraeg", "Cymraeg fel Ail Iaith", neu "Cymraeg fel Iaith Fodern". Efallai "Saesneg fel Iaith Fodern" yw hyn.
Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Geraint Lovgreen
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, July 09, 2008 9:04 PM
Subject: Re: ESOL
Cymry Saesneg, iawn mewn cyferbyniad â Cymry Cymraeg.
Ond Cymry sy'n siarad Saesneg? Dwi'n un o'r rheiny hefyd.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Carolyn
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, July 09, 2008 8:58 PM
Subject: ATB: ESOL
Mae'n well gan rai pobl eu galw'n Gymry sy'n siarad Saesneg.
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 19:51
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ESOL
Ydi yn hollol.
Wyddwn i ddim fod yna bobol sy'n anfodlon â'r term 'di-Gymraeg' chwaith. O'n i'n meddwl fod 'Cymry di-Gymraeg' yn ffordd wleidyddol gywir o sôn am bobl y byddem yn arfer eu galw (heb unrhyw fwriad sarhaus!) yn 'Saeson' erstalwm!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Carolyn
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, July 09, 2008 8:47 PM
Subject: ATB: ESOL
Wedi meddwl eto, mae'r term Saesneg yn wirion hefyd tydi? Mae 'na lot o bobl yn siarad lot o ieithoedd eraill a Saesneg hefyd.
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 19:41
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ESOL
Mae'r term ESOL (sef English for speakers of other languages) wedi'i gyfieithu yn Term Cymru (ond dim ond ar statws 5) fel 'Saesneg ar gyfer Siaradwyr ieithoedd eraill'.
Ga'i awgrymu bod hwn yn derm hurt, achos, er enghraifft, mae pawb sy'n darllen hwn yn siaradwyr iaith arall, sef Cymraeg. Ond go brin y byddai arnom angen darpariaeth ESOL. Felly rhois gynnig ar ddweud 'Saesneg fel ail iaith', ond mae'r un peth yn wir i raddau llai am yr ymadrodd hwnnw.
Dwi wedi Gwglo ac wedi gweld enghraifft o 'Saesneg i dramorwyr' - ond efallai nad yw bathwyr y term gwreiddiol eisiau eu galw'n 'foreigners' - a hwythau'n aml yn ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches, byddai hynny efallai'n ymfflamychol.
Felly - be dwi wedi'i roi heno wrth gyfieithu hyn (yn y Cofnod) ydi 'Saesneg i'r di-Saesneg' - oes gan bobl farn am hyn o gwbl? Neu awgrymiadau eraill?
Geraint
No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.7/1541 - Release Date: 08/07/2008 19:50