Print

Print


Beth am y term TEFL, sef Saesneg fel Iaith Dramor? Oes rheswm dros beidio ei
ddefnyddio yma? Neu efallai fod edrych ar dystysgrif CELTA yn help hefyd,
sef Certificate in English Language Teaching to Adults (gan gymryd fod pawb
yn y dosbarth yn oedolion).

Y prif beth i athrawon ESOL/TEFL yw'r angen i allu dysgu Saesneg heb
ddefnyddio iaith gyntaf y dysgwyr, yn aml am fod dosbarth yn cynnwys
disgyblion o fwy nag un wlad/mamiaith, neu hefyd am nad yw'r athro'n siarad
iaith y disgybl. Pwynt arall yn erbyn galw'r myfyrwyr yn dramorwyr yw y fod
dosbarthiadau ESOL yn cael eu cynnal yn mhob cwr o'r byd, ac felly'r iaith
sy'n dramor, nid y dysgwyr.

Elin

2008/7/9 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:

>  Ie, pam lai? Mae'n gwneud y tro i mi. Diolch yn fawr!
>
> Ond mi ddalia'i ngafael ar y gwaith tan ganol bore rhag ofn y bydd gan
> rywun ryw gyfraniad arall i'w wneud ar y pwnc!
>
> ----- Original Message -----
> *From:* Carolyn <[log in to unmask]>
> *To:* [log in to unmask]
> *Sent:* Wednesday, July 09, 2008 9:33 PM
> *Subject:* ATB: ESOL
>
>  Be am Saesneg i ddysgwyr?
>
> Carolyn
>
>
>  ------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Ann
> Corkett
> *Anfonwyd/Sent:* 09 Gorffennaf 2008 20:22
>
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: ESOL
>
>
>
> Pan wnes i lefel "O" yn y Gymraeg, 'roedd 'na ddewis, cyhyd ag y gallaf
> gofio'r enwau, o wneud "Cymraeg", "Cymraeg fel Ail Iaith", neu "Cymraeg fel
> Iaith Fodern". Efallai "Saesneg fel Iaith Fodern" yw hyn.
>
> Ann
>
>  ----- Original Message -----
>
> *From:* Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Sent:* Wednesday, July 09, 2008 9:04 PM
>
> *Subject:* Re: ESOL
>
>
>
> Cymry Saesneg, iawn mewn cyferbyniad â Cymry Cymraeg.
>
>
>
> Ond Cymry sy'n siarad Saesneg? Dwi'n un o'r rheiny hefyd.
>
>  ----- Original Message -----
>
> *From:* Carolyn <[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Sent:* Wednesday, July 09, 2008 8:58 PM
>
> *Subject:* ATB: ESOL
>
>
>
> Mae'n well gan rai pobl eu galw'n Gymry sy'n siarad Saesneg.
>
>
>  ------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Geraint
> Lovgreen
> *Anfonwyd/Sent:* 09 Gorffennaf 2008 19:51
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: ESOL
>
>
>
> Ydi yn hollol.
>
>
>
> Wyddwn i ddim fod yna bobol sy'n anfodlon â'r term 'di-Gymraeg' chwaith.
> O'n i'n meddwl fod 'Cymry di-Gymraeg' yn ffordd wleidyddol gywir o sôn am
> bobl y byddem yn arfer eu galw (heb unrhyw fwriad sarhaus!) yn 'Saeson'
> erstalwm!
>
>  ----- Original Message -----
>
> *From:* Carolyn <[log in to unmask]>
>
> *To:* [log in to unmask]
>
> *Sent:* Wednesday, July 09, 2008 8:47 PM
>
> *Subject:* ATB: ESOL
>
>
>
> Wedi meddwl eto, mae'r term Saesneg yn wirion hefyd tydi? Mae 'na lot o
> bobl yn siarad lot o ieithoedd eraill a Saesneg hefyd.
>
>
>  ------------------------------
>
> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Geraint
> Lovgreen
> *Anfonwyd/Sent:* 09 Gorffennaf 2008 19:41
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* ESOL
>
>
>
> Mae'r term ESOL (sef English for speakers of other languages) wedi'i
> gyfieithu yn Term Cymru (ond dim ond ar statws 5) fel 'Saesneg ar gyfer
> Siaradwyr ieithoedd eraill'.
>
>
>
> Ga'i awgrymu bod hwn yn derm hurt, achos, er enghraifft, mae pawb sy'n
> darllen hwn yn siaradwyr iaith arall, sef Cymraeg. Ond go brin y byddai
> arnom angen darpariaeth ESOL. Felly rhois gynnig ar ddweud 'Saesneg fel ail
> iaith', ond mae'r un peth yn wir i raddau llai am yr ymadrodd hwnnw.
>
>
>
> Dwi wedi Gwglo ac wedi gweld enghraifft o 'Saesneg i dramorwyr' - ond
> efallai nad yw bathwyr y term gwreiddiol eisiau eu galw'n 'foreigners' - a
> hwythau'n aml yn ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches, byddai hynny efallai'n
> ymfflamychol.
>
>
>
> Felly - be dwi wedi'i roi heno wrth gyfieithu hyn (yn y Cofnod) ydi
> 'Saesneg i'r di-Saesneg' - oes gan bobl farn am hyn o gwbl? Neu awgrymiadau
> eraill?
>
>
>
> Geraint
>
> No virus found in this incoming message.
>
> Checked by AVG - http://www.avg.com
>
> Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.7/1541 - Release Date: 08/07/2008 19:50
>
>