Print

Print


Be am Saesneg i ddysgwyr?

Carolyn

 

  _____  

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 20:22
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ESOL

 

Pan wnes i lefel "O" yn y Gymraeg, 'roedd 'na ddewis, cyhyd ag y gallaf
gofio'r enwau, o wneud "Cymraeg", "Cymraeg fel Ail Iaith", neu "Cymraeg fel
Iaith Fodern". Efallai "Saesneg fel Iaith Fodern" yw hyn.

Ann

----- Original Message ----- 

From: Geraint Lovgreen <mailto:[log in to unmask]>  

To: [log in to unmask] 

Sent: Wednesday, July 09, 2008 9:04 PM

Subject: Re: ESOL

 

Cymry Saesneg, iawn mewn cyferbyniad â Cymry Cymraeg.

 

Ond Cymry sy'n siarad Saesneg? Dwi'n un o'r rheiny hefyd.

----- Original Message ----- 

From: Carolyn <mailto:[log in to unmask]>  

To: [log in to unmask] 

Sent: Wednesday, July 09, 2008 8:58 PM

Subject: ATB: ESOL

 

Mae’n well gan rai pobl eu galw’n Gymry sy’n siarad Saesneg.

 


  _____  


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 19:51
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ESOL

 

Ydi yn hollol.

 

Wyddwn i ddim fod yna bobol sy'n anfodlon â'r term 'di-Gymraeg' chwaith. O'n
i'n meddwl fod 'Cymry di-Gymraeg' yn ffordd wleidyddol gywir o sôn am bobl y
byddem yn arfer eu galw (heb unrhyw fwriad sarhaus!) yn 'Saeson' erstalwm!

----- Original Message ----- 

From: Carolyn <mailto:[log in to unmask]>  

To: [log in to unmask] 

Sent: Wednesday, July 09, 2008 8:47 PM

Subject: ATB: ESOL

 

Wedi meddwl eto, mae’r term Saesneg yn wirion hefyd tydi? Mae ‘na lot o bobl
yn siarad lot o ieithoedd eraill a Saesneg hefyd. 

 


  _____  


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 19:41
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ESOL

 

Mae'r term ESOL (sef English for speakers of other languages) wedi'i
gyfieithu yn Term Cymru (ond dim ond ar statws 5) fel 'Saesneg ar gyfer
Siaradwyr ieithoedd eraill'.

 

Ga'i awgrymu bod hwn yn derm hurt, achos, er enghraifft, mae pawb sy'n
darllen hwn yn siaradwyr iaith arall, sef Cymraeg. Ond go brin y byddai
arnom angen darpariaeth ESOL. Felly rhois gynnig ar ddweud 'Saesneg fel ail
iaith', ond mae'r un peth yn wir i raddau llai am yr ymadrodd hwnnw.

 

Dwi wedi Gwglo ac wedi gweld enghraifft o 'Saesneg i dramorwyr' - ond
efallai nad yw bathwyr y term gwreiddiol eisiau eu galw'n 'foreigners' - a
hwythau'n aml yn ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches, byddai hynny efallai'n
ymfflamychol.

 

Felly - be dwi wedi'i roi heno wrth gyfieithu hyn (yn y Cofnod) ydi 'Saesneg
i'r di-Saesneg' - oes gan bobl farn am hyn o gwbl? Neu awgrymiadau eraill?

 

Geraint

No virus found in this incoming message.
Checked by AVG - http://www.avg.com 
Version: 8.0.138 / Virus Database: 270.4.7/1541 - Release Date: 08/07/2008
19:50