Print

Print


Cymry Saesneg, iawn mewn cyferbyniad â Cymry Cymraeg.
 
Ond Cymry sy'n siarad Saesneg? Dwi'n un o'r rheiny hefyd.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Carolyn
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, July 09, 2008 8:58 PM
Subject: ATB: ESOL

Mae’n well gan rai pobl eu galw’n Gymry sy’n siarad Saesneg.

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 19:51
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ESOL

 

Ydi yn hollol.

 

Wyddwn i ddim fod yna bobol sy'n anfodlon â'r term 'di-Gymraeg' chwaith. O'n i'n meddwl fod 'Cymry di-Gymraeg' yn ffordd wleidyddol gywir o sôn am bobl y byddem yn arfer eu galw (heb unrhyw fwriad sarhaus!) yn 'Saeson' erstalwm!

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Carolyn

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Wednesday, July 09, 2008 8:47 PM

Subject: ATB: ESOL

 

Wedi meddwl eto, mae’r term Saesneg yn wirion hefyd tydi? Mae ‘na lot o bobl yn siarad lot o ieithoedd eraill a Saesneg hefyd.

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 09 Gorffennaf 2008 19:41
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: ESOL

 

Mae'r term ESOL (sef English for speakers of other languages) wedi'i gyfieithu yn Term Cymru (ond dim ond ar statws 5) fel 'Saesneg ar gyfer Siaradwyr ieithoedd eraill'.

 

Ga'i awgrymu bod hwn yn derm hurt, achos, er enghraifft, mae pawb sy'n darllen hwn yn siaradwyr iaith arall, sef Cymraeg. Ond go brin y byddai arnom angen darpariaeth ESOL. Felly rhois gynnig ar ddweud 'Saesneg fel ail iaith', ond mae'r un peth yn wir i raddau llai am yr ymadrodd hwnnw.

 

Dwi wedi Gwglo ac wedi gweld enghraifft o 'Saesneg i dramorwyr' - ond efallai nad yw bathwyr y term gwreiddiol eisiau eu galw'n 'foreigners' - a hwythau'n aml yn ffoaduriaid neu'n geiswyr lloches, byddai hynny efallai'n ymfflamychol.

 

Felly - be dwi wedi'i roi heno wrth gyfieithu hyn (yn y Cofnod) ydi 'Saesneg i'r di-Saesneg' - oes gan bobl farn am hyn o gwbl? Neu awgrymiadau eraill?

 

Geraint